Helen Willson

Helen yw ein Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu. Mae hi’n gyfrifol am ehangu cysylltiadau’r Gymdeithas â Chymrodorion ar draws Cymru a’r byd, a hefyd, am ddatblygu a hyrwyddo’r manteision o gael Cymrodyr i gyfrannu at y Gymdeithas ac i weithio gyda’r Gymdeithas. Mae hi’n angerddol am gefnogi a chysylltu pobl, ac mae hi’n falch dros ben hefyd o arwain y gwaith o weithredu uchelgeisiau Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant y Gymdeithas.

Ymunodd Helen â Chymdeithas Ddysgedig Cymru o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle bu’n arwain cyfeiriad strategol yr elusen ar gyfer Ymgysylltu a Chyfranogiad Cymunedol yn fwyaf diweddar.  Yn ystod ei chwe blynedd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd hi’n gyfrifol hefyd am gychwyn polisi Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, gan hyrwyddo datblygu strategaeth Iaith Gymraeg a darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant mewn gwirfoddoli ac ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer y timau eiddo ar draws Cymru.

Cyn hynny, bu’n rhedeg Gwasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhredegar Newydd, lle bu’n goruchwylio’r gwaith o ailddatblygu’r Amgueddfa Winding House arobryn, gwerth miliynau o bunnoedd, yn ogystal â churadu nifer o arddangosfeydd, digwyddiadau a rheoli tîm o staff a gwirfoddolwyr.

Astudiodd Helen Archaeoleg ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ac yn ddiweddarach, enillodd radd MSc mewn ‘Gofal am Gasgliadau’ ym Mhrifysgol Caerdydd, a arweiniodd at ei gyrfa gychwynnol mewn amgueddfeydd.

Mae hi wedi hyfforddi fel Hyfforddwr Achrededig yn ddiweddar. Mae gwirfoddoli wedi chwarae rhan gref ym mywyd Helen y tu allan i’r gwaith, ac mae hi wedi cymryd rhan mewn llawer o rolau amrywiol dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae hi’n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Ambiwlans Sant Ioan Cymru. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, ac yn mwynhau dod o hyd i amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu arddio pan fo’n bosib.

Dyddiau gwaith arferol Helen yw dydd Llun – dydd Gwener. Gallwch gysylltu â hi drwy ebostio hwillson@lsw.wales.ac.uk.