Alex Rees
Fel y Swyddog Gweithrediadau mae Alex yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth. Mae ei rôl yn cwmpasu datblygiad a gweithrediad gweithdrefnau busnes effeithiol, yn bennaf drwy gefnogi’r Cyngor ac amrywiol Bwyllgorau. Yn ogystal, mae’n cefnogi’r Clerc er mwyn rheoli gweithrediad gweithdrefnau a pholisïau. Mae’n gyrru effeithlonrwydd a gwelliant parhaus, gan sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n effeithiol a ffynnu fel sefydliad.
Astudiodd Alex Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yn 2022, ac ymunodd gyda’r Gymdeithas ym mis Gorffennaf 2024.
Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwaraeon modur, heicio a theithio. Mae wedi rasio ym Mhencampwriaeth Certio Prydain am sawl blwyddyn ochr yn ochr â gyrwyr F1 presennol ac ar hyn o bryd mae’n cystadlu mewn Treialon Beiciau Modur.
Gallwch gysylltu ag ef drwy ebostio arees@lsw.wales.ac.uk.