Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn allweddol i ymchwil a datblygu yn y DU
Dylai cyllid ymchwil ac arloesi yn y DU fod o leiaf gyfwerth â chyfanswm y gwariant presennol o bob ffynhonnell yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, yn ôl argymhelliad mewn adroddiad newydd.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol Iwerddon wedi cyhoeddi eglurydd sy’n amlinellu’r rôl allweddol sydd gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) wrth gefnogi ymchwil ac arloesi drwy’r DU.
Y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yw offeryn yr UE ar gyfer cefnogi datblygu economaidd yn y rhanbarthau ar draws yr UE, a’u nod yw lleihau anghydraddoldeb a gwella cydlynu.
Mae The European Structural and Investment Funds – Contribution to UK research and innovation yn trafod:
- sut mae Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn cefnogi ymchwil a datblygu yn y DU;
- effaith Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd ar hyn o bryd;
- sut y caiff y cyllid ei ddyrannu a’i weinyddu;
- sut y gallai Cronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig y llywodraeth edrych.
Mae’r €2.6 biliwn y mae’r ESIF wedi’i roi i ymchwil a datblygu yn y DU dros y saith mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys cyd-gyllido’r DU, gyfwerth â buddsoddiad o tua £375 miliwn y flwyddyn.
Y budd i Gymru bum gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU
Mae’r €1.39 biliwn a ddosbarthwyd o Gronfa Datblygu Strwythurol Ewrop (ERDF) wedi cael effaith benodol yn y cenhedloedd datganoledig. €125 yw’r cyfraniad y pen yng Nghymru, bum gwaith cyfartaledd y DU, sef €23 y pen.
Mae gweinyddiaeth y cronfeydd yng Nghymru wedi’i datganoli. Mae Sêr Cymru, rhaglen werth miliynau o bunnoedd sy’n denu talent wyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru, yn enghraifft o’r ffordd mae cyllid ESIF wedi cryfhau rhaglenni ymchwil yng Nghymru.
Effaith y cyllid hwn yw ei bod yn ei gwneud yn haws denu cyllid ychwanegol o’r UE a’r DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd ei Chronfa Ffyniant Gyffredin yn disodli cyllid yr ESIF, yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE.
Serch hynny mae’n aneglur ar hyn o bryd a fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd yn cynnig swm o arian sy’n cyfateb i’r ESIF, sut y caiff yr arian hwn ei ddyrannu a’i weinyddu ac a all atgynhyrchu’r rhyngddibyniaeth gymhleth a grëwyd gan yr ESIF.