Newid y naratif: Rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Mae adroddiad newydd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a History UK yn ymateb i naratif pwerus ar hyd y DU ynghylch gwerth ariannol addysg uwch, sy’n tueddu i labelu graddau’r celfyddydau a’r dyniaethau yn ‘isel eu gwerth’.
Mae’r adroddiad yn casglu’r canfyddiadau o gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2024, a fynychwyd gan academyddion, arweinwyr prifysgol, myfyrwyr, graddedigion, cynrychiolwyr melinau trafod, cydweithwyr o gyrff cyflogwyr, a chydweithwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae’n dangos y gyfradd gyflogaeth gymharol sydd gan raddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau o’u cymharu â’u cyfoedion mewn pynciau eraill, y sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr a ddatblygant a’u gwerth ehangach i economi’r Deyrnas Unedig. Ymhellach, dengys nad oes llawer o wahaniaeth rhwng cyflogau cychwynnol graddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau a graddedigion o feysydd eraill wedi i ‘nifer fach o swyddi dethol sy’n cynnig cyflogau eithriadol o uchel o’r cychwyn cyntaf (e.e. economeg, meddygaeth) gael eu gosod i un ochr’.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod angen i feysydd y celfyddydau a’r dyniaethau weithio’n galetach wrth ‘amlygu eu gwir werth’ i wneuthurwyr polisi a’r cyhoedd.