Llywydd a Swyddogion
Mae gan y Gymdeithas bum Swyddog Anrhydeddus.
Llywydd
Yr Athro Hywel Thomas CBE FRENG MAE FLSW FRS
Mae’r Athro Thomas yn Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yn Gyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Darllen mwy
Is-Lywydd – Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Athro Helen Fulton FRSA FSA FLSW
Astudiodd Helen Fulton ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Rhydychen, lle bu’n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac Astudiaethau Celtaidd. Dyfarnwyd cymrodoriaeth ôl-ddoethurol Prifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth iddi, a chymrodoriaeth ôl-ddoethurol Leverhulme. Darllen mwy
Is-Lywydd – Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth
Yr Athro Rob Beynon FLSW
Enillodd Rob Beynon ei BSc a’i PhD mewn biocemeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd ei yrfa fel darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1977 ac yn 1993 cafodd ei benodi’n Gadeirydd Biocemeg yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion. Cafodd ei benodi olaf yn Gadeirydd Proteomeg, Prifysgol Lerpwl o 1999 hyd 2019. Ei brif feysydd ymchwil yw meysydd protein cemeg, proteomeg, proteolysis, ac ensymau proteolytig.
Roedd yn arloesi yn y ddealltwriaeth o ddynameg protein yn fyd eang ac ar raddfa proteome ac mewn datblygu dulliau perthnasol mewn anifeiliaid cyfan a systemau cymhleth. Datblygodd strategaeth newydd gyfan ar gyfer meintioliad absoliwt a amlblecswyd mewn proteomeg (QconCAT) sydd wedi eu cymhwyso i feysydd amrywiol o wyddoniaeth protein.
Ei waith ‘mwyaf cyffredin’ yw gwefan sy’n cyfrifo byffer sy’n thermodynamig gywir (www.phbuffers.org) sydd wedi helpu’r gymuned wyddonol ar draws y byd i baratoi dros un filiwn a chwarter litr o fyffer!
Ysgrifennydd Cyffredinol
Yr Athro Faron Moller FBCS FIMA FLSW
Mae Faron Moller yn Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe o fewn y Grŵp Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol, ac ef yw’r Pennaeth wnaeth sefydlu Grŵp Gwirio Rheilffyrdd Abertawe.
Mae Faron yn Gyfarwyddwr Technocamps hefyd, rhaglen allgymorth ysgolion a chymunedol Cymru gyfan ym Mhrifysgol Abertawe ond gyda chanolfannau ym mhob prifysgol yng Nghymru. Mae hefyd yn Bennaeth y Sefydliad Codio yng Nghymru, sy’n cynrychioli cangen ymgysylltu â busnes Technocamps, ac yn cyd-Arwain y Thema Ymchwil ar Sylfeini Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg, sy’n cynrychioli cangen ymchwil Technocamps. Darllen mwy.
Trysorydd
Dr Sally Davies FRCP FLSW
Ymgymerodd Dr Sally Davies, Sarah Jane Clyburn, â’i hastudiaethau meddygol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac Ysbyty Llundain, Whitechapel. Dechreuodd ei gyrfa yn Llundain a Rhydychen, cyn dychwelyd i Gaerdydd ym 1985. Aeth ymlaen i arbenigo mewn geneteg glinigol, gan ddod yn Feddyg Ymgynghorol yng Ngwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru yn ogystal â dod yn Is-ddeon yn yr Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol i Raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Sally yn falch o fod yn Llywydd y Ffederasiwn Menywod Meddygol 2014-2016.