Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad yn y Gymdeithas
Cefndir
Yn 2014, cymeradwyodd Cyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd dan Arweiniad y Fonesig Athro Teresa Rees.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ac argymhellion ar gydraddoldeb yma. Mewn ymateb i hyn gwnaed newidiadau, gan gynnwys gwneud y broses ethol yn fwy gweladwy, eithrio’r cap (o dri) ar y nifer o enwebiadau y gall Cymrawd ei wneud mewn un flwyddyn yn achos ymgeiswyr benywaidd, darparu arweinad ysgrifenedig i Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu a chynyddu gwelededd Cymrodyr benywaidd. Ers hynny mae’r gyfran o fenywod a etholwyd wedi codi i 35% dros y ddau gylch etholiad diwethaf, sy’n golygu bod cynrychiolaeth fenywaidd yn y gymdeithas bellach yn 18%.
Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad 2017-18
Mae Cyngor y Gymdeithas wedi cymeradwyo cylch gorchwyl adolygiad newydd â’r teitl Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad yn y Gymdeithas dan arweiniad yr Athro Terry Threadgold. Mae’r cylch gorchwyl i’w weld yma.
Yn gryno nod yr Adolygiad yw:
- ystyried amrywiaeth fel y’i diffinnir yn nhermau Deddf Cydraddoldeb 2010, gan roi ystyriaeth i ddaearyddiaeth a natur benodol Sefydliadau Addysg Uwch Cymru;
- ystyried wyneb allanol y Gymdeithas (gan gynnwys y cyfansoddiad a rôl/au ei Chymrodoriaeth, ei rhyngweithio a’i chefnogaeth i randdeiliaid eraill a’i chyfraniad i Brifysgolion Cymru ac i Gymru);
- ystyried unrhyw rai o strwythurau, prosesau ac arferion mewnol y gymdeithas sy’n effeithio ar amrywiaeth y gymrodoriaeth.
Grŵp Llywio
Bydd grŵp llywio’n cefnogi gwaith yr adolygiad, gan gynnwys aelodaeth eang o’r Cyngor, Pwyllgorau Craffu, y Gymrodoriaeth ac aelodau allanol gydag arbenigedd perthnasol:
Cadeirydd: Emerita Professor Terry Threadgold, Cardiff University, Communications and Cultural Studies.
Staff Ysgrifenyddiaeth: Amanda Kirk (Clerk to Council), Philip Jones (Fellowship & Engagement Officer)
Aelodau o’r Cyngor
Professor David Boucher, Cardiff University, Political Philosophy and International Relations
Professor Ole Peterson, Cardiff University, Biosciences
Professor Nancy Edwards, Bangor University, Medieval Archaeology
Professor, Helen Fulton, University of Bristol, Head of English – Medieval Literature (including Welsh).
Cadeiryddion Craffu
Professor Alessandra Tanessini, Cardiff University, Philosophy
Professor Rob Beynon, Liverpool University, Biosciences
Professor Gareth Rees, Cardiff University, Social Sciences
Professor Ieuan Hughes, University of Cambridge, Paediatrics
Cymrodyr
Professor Diane Kelly, Swansea University, Medicine
Emeritus Professor Richard Rathbone, SOAS and Aberystwyth University, Modern African History
Professor Maria Goddard, University of York, Health Economics
Professor Claire Gorrara, Cardiff University, French/Modern Languages
Professor Urfan Khaliq, Cardiff University, Public and International Law
Robert Humphreys, Director Open University in Wales
Professor John Collier, Director, the STFC Central Laser Facility, the Rutherford Appleton Laboratory
Aelodau Allanol
Karen Cooke, Cardiff University, Organisational and Staff Development Manager
Abyd Quinn-Aziz, Cardiff University, Senior Lecturer, Social Work