Mae’r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Ymchwilwyr yn helpu i lunio gwaith y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ehangach.
Yn cynnwys pedwar o Gymrodyr y Gymdeithas ac un ar ddeg o ymchwilwyr, mae’r grŵp yn dod ag ystod amrywiol o safbwyntiau ynghyd i gynrychioli’r amrywiaeth eang o ymchwil yng Nghymru. Mae ein haelodau yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain ein gweithgareddau a sicrhau bod y rhaglen yn diwallu anghenion ymchwilwyr ar draws sectorau a disgyblaethau.
Bydd y Grŵp Cynghori yn asesu’r dirwedd ymchwil bresennol yng Nghymru, yn nodi cyfleoedd a heriau ac yn archwilio sut y gall y Gymdeithas ehangu ei hymdrechion i gefnogi a datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr.
Nodwch: Bydd ein Cymrodyr sy’n eistedd ar hyn o bryd yn y Grŵp Cynghori yn gorffen eu tymor ym mis Mai 2025. Bydd enwau Cymrodyr sy’n ymuno â’r Grŵp ar ôl y cyfnod hwn, yn cael eu cadarnhau unwaith y cyhoeddir canlyniadau’r etholiad ym mis Mawrth 2025.
Ysgol Gwyddorau Ffisegol, Prifysgol Lerpwl
Mae gan Yr Athro Simon Hands FLSW brofiad ym meysydd damcaniaethol gwyddoniaeth, lle mae trefnu meddyliau, syniadau a llwyth gwaith i gynhyrchu cyhoeddiadau annibynnol (efallai hyd yn oed un awdur) yn sgil allweddol. Weithiau mae’n anodd cydnabod blaenoriaethau ymchwil tymor hwy, yn enwedig mewn byd sydd i bob golwg wedi’i ddominyddu gan REF, bibliometreg, llwythi addysgu sy’n cynyddu’n barhaus, a chyfryngau cymdeithasol. Mae Simon hefyd wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr arbrofol iau ac mae’n deall yn iawn yr anawsterau enfawr sy’n gysylltiedig â chyfarparu labordy ymchwil. Mae Simon eisiau gallu arwain YGC i wneud y dewisiadau a’r penderfyniadau gorau posibl i ddatblygu eu gyrfaoedd. Y trawsnewid anoddaf y mae’n rhaid i unrhyw YGC ei oresgyn, mae Simon yn cydnabod, yw caffael annibyniaeth ymchwil, a ddangosir gan fynediad at adnoddau a phroffil cyhoeddi.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Yr Athro Alma Harris FLSW wedi gweithio’n rhyngwladol ar ymchwil ac ysgrifennu i ddeall a chefnogi arweinyddiaeth addysgol, polisi addysg a gwella ysgolion. Mae Alma wedi bod yn Uwch Gynghorydd Polisi i Lywodraeth Cymru gan gynorthwyo gyda’r broses o ddiwygio’r system gyfan ac arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu cymhwyster meistr ar gyfer holl athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru. Gyda Banc y Byd cyfrannodd Alma at y rhaglenni datblygu ac ymchwil gyda’r nod o gefnogi ysgolion mewn cyd-destunau heriol yn Rwsia. Mae Alma wedi cefnogi YGC mewn amrywiol ffyrdd yn ystod ei gyrfa ac wedi rhannu paneli gyda nhw. Mae Alma yn edrych ymlaen at greu cyfleoedd i Gymrodyr y Gymdeithas weithio gydag YGC yn ein Rhwydwaith.
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, Prifysgol Bangor
Mae gan Yr Athro Raluca Radulescu FLSW brofiad helaeth o fentora PGR/YGC trwy ei gwahanol rolau fel Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig (am fwy na deng mlynedd), yn rhedeg digwyddiadau PG a hyfforddiant. Mae Raluca hefyd wedi dal rolau arwain, fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu a chydlynydd uned REF. Mae Raluca wedi ymgymryd â sawl cynllun hyfforddi ac wedi gweithredu fel mentor ar y cynllun WUMS. Mae Raluca yn rhan o lawer o bwyllgorau a grwpiau trafod perthnasol gan gynnwys y Concordat i Ymchwilwyr a phwyllgor achredu Athena Swan. Mae Raluca yn eistedd ar gyrff cyllido cenedlaethol ar gais (ar ôl bod yn aelod o adolygiad gan gymheiriaid yr AHRC ers 11 mlynedd) ac yn cynghori ar gyrff cyllido allanol/rhyngwladol. Gan fod Raluca yn awdur dwy astudiaeth achos effaith (ar gyfer 2014 a 2021), mae Raluca yn ymwybodol iawn o’r angen i weithio gydag endidau y tu allan i’r academi a hoffai hwyluso hynny ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfaoedd Cynnar. Mae Raluca yn croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at ddatblygu gyrfaoedd yr ymchwilwyr allweddol hyn yng Nghymru, ac mae’n edrych ymlaen at helpu i ddatblygu cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer YGC a Ymchwilwyr Ganol Gyrfa.
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe
Mae gan Yr Athro Andrew Rowley FLSW dros 35 mlynedd mewn AU yng Nghymru ac mae wedi gweld yr anawsterau cyson o ran denu a chadw ôl-ddoethuriaethau dawnus yng Nghymru. Mae gan Andrew wybodaeth uniongyrchol am hyn o hyfforddi nifer fawr o fyfyrwyr ymchwil ac ôl-ddoethuriaeth yn ystod ei yrfa. Mae diffyg dilyniant gyrfa a chyfraddau llwyddiant gwael o ran denu cyllid UKRI yng Nghymru yn faterion allweddol. Bydd colli cyllid yr UE yn effeithio’n ddifrifol ar yr holl brifysgolion yng Nghymru sy’n cael eu gyrru gan ymchwil ar lefel myfyrwyr ymchwil ac ôl-ddoethuriaeth. Fel rhan o’r Grŵp Cynghori, mae Andrew am edrych ar sut y gall Cymru a’r Gymdeithas Ddysgedig helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn a fydd yn dod yn hollbwysig yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru
Cwblhaodd Dr Ruth Atherton ei PhD mewn Hanes Modern Cynnar ym Mhrifysgol Birmingham yn 2018, ac ymunodd â Phrifysgol De Cymru (PDC) fel Darlithydd mewn Hanes yn 2020, gan addysgu ar raglenni BA Hanes a Sylfaen Integredig. Mae taith academaidd Ruth wedi bod braidd yn anhraddodiadol, a chwblhaodd ei PhD yn rhan-amser tra’n gweithio’n llawn amser yn y maes cyhoeddi, a thra’n magu dau fachgen bach. Mae Ruth wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch ac yn 2022, fe’i penodwyd yn Arweinydd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar y Brifysgol. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Ruth eisiau defnyddio ei phrofiad i ddatblygu mentrau creadigol i gefnogi datblygu ymchwilwyr ar draws Cymru.
Ysgol Cemeg, Prifysgol Abertawe
Mae gan Dr Helen Chadwick MChem a PhD o Brifysgol Rhydychen, a bu’n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Swistir a’r Iseldiroedd cyn dychwelyd i’r DU. Derbyniodd Helen Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yn 2024, a gynhaliwyd yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae hi ar hyn o bryd yn Uwch Ddarlithydd. Ar ôl bod yn gyd-gadeirydd Gweithgor Staff Ymchwil y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, a thrwy ei phrofiad fel ymchwilydd, mae Helen yn ymwybodol o’r rhwystrau sy’n wynebu Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ac, fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Helen yn anelu at leihau’r rhwystrau hyn.
DECIPHer, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Caitlyn Donaldson yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio yn DECIPHer, canolfan ymchwil iechyd cyhoeddus, ac yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd meddwl a lles pobl ifanc, anghydraddoldebau iechyd a thrawsnewid ysgolion. Ar hyn o bryd, mae hi’n rhedeg grŵp mentora ar gyfer myfyrwyr PhD yn ei chanolfan ymchwil, ac mae hi’n aelod gweithgar o rwydwaith cydraddoldeb rhywedd Empower Prifysgol Caerdydd a rhwydwaith gyrfa cynnar yr Academi Brydeinig. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Caitlyn yn awyddus i sefydlu llwybrau i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o wahanol brifysgolion ddod at ei gilydd a datblygu syniadau ymchwil, ysgrifennu ceisiadau am gyllid, rhannu arbenigedd ac archwilio cydweithio rhyngddisgyblaethol.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Dr Edith England yn Uwch Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ac Ymarfer ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ymchwil Edith yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau tai, gyda phrosiectau cyfredol a diweddar yn cynnwys astudiaeth fawr o brofiadau tai pobl niwroamrywiol, ac arolwg ar draws y DU ar dai a digartrefedd ymhlith pobl LGBTQ+, ac astudiaeth dulliau cymysg ar lesiant a gorflinder ymhlith gweithwyr y sector cam-drin domestig. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, nod Edith yw eirioli dros amgylchedd cefnogol, cynhwysol i bob ymchwilydd yng Nghymru, a mynd i’r afael â’r heriau penodol sy’n wynebu ymchwilwyr mewn prifysgolion ôl-92.
Ysgol y Gyfraith HRC, Prifysgol Abertawe
Mae Dr Gareth Evans yn Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith HRC ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n addysgu cyfraith gyfansoddiadol a systemau cyfreithiol. Mae ganddo LLB a PhD yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym meysydd cyfraith gyhoeddus, hanes gwleidyddol a chyfraith datganoli yng Nghymru. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Gareth eisiau llunio amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i ymchwilwyr yng Nghymru.
Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Mae Steffan James yn ymchwilydd ym maes rheoli’r gadwyn gyflenwi gynaliadwy, a symudodd i weithio yn y byd academaidd yn dilyn gyrfa fel peiriannydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae Steffan yn angerddol am gynaliadwyedd, ac mae’n ymroddedig i’w wreiddio wrth wraidd ymchwil ac arloesi. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Steffan wedi ymrwymo i feithrin cydweithio ar draws prifysgolion a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a defnyddio ei brofiad mewn diwydiant a’r byd academaidd. Mae Steffan yn ystyried Cymru fel sylfaen ddelfrydol ar gyfer syniadau a thechnolegau newydd ac mae’n credu y dylai ymchwilwyr ar ddechrau a chanol eu gyrfa gael cyfleoedd i ddod â’u syniadau yn fyw.
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Esther Muddiman yn ddarlithydd mewn Cymdeithaseg Addysg yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb arbennig mewn actifiaeth ieuenctid, cynaliadwyedd ac ymgysylltu dinesig. Mae Esther wrth ei bodd yn ymuno â’r Grŵp Cynghori ar adeg allweddol ar gyfer ymchwil yng Nghymru, a chyflwyno ei phrofiad o ymgyrchu dros ddiogelwch swyddi ac amodau gwell i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae Esther yn gobeithio cyfrannu at y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn cael ei wneud gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ddatblygu a gwella arferion cynhwysol ac i symud yn fwy nid yn unig at letya, ond at ddathlu amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Yipeng Qin yn Uwch Ddarlithydd ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei arbenigedd yn rhychwantu deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a gweledigaeth gyfrifiadurol, lle mae’n arwain prosiectau effeithiol sydd yn cael eu hariannu gan sefydliadau fel EPSRC, y Gymdeithas Frenhinol, ac Airbus. Fel Arweinydd y Grŵp Ymchwil Golwg Cyfrifiadurol, mae’n hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol, amrywiaeth, a chynwysoldeb mewn ymchwil. Drwy’r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Ymchwilwyr, ei nod yw mynd i’r afael â heriau fel cyllid a dilyniant gyrfa wrth feithrin partneriaethau diwydiant a mentrau rhyngddisgyblaethol.
Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth
Mae Dr Yasir Saleem Shaikh yn Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ac yn gyd-gynllunydd y Rhwydwaith Ymchwilydd Gyrfa Gynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y ddwy rôl, mae wedi bod yn dyst i’r heriau y mae ymchwilwyr yn dod ar eu traws, ac yn deall eu hanghenion penodol. Fel aelod o’r Grŵp Cynghori, mae Yasir yn awyddus i fynd i’r afael â’r heriau y mae ymchwilwyr rhyngwladol yn eu hwynebu yng Nghymru, yn enwedig wrth lywio tirwedd ymchwil Cymru a’r DU. Ei nod yw helpu i greu cyfleoedd i ymchwilwyr gysylltu, cydweithio a chael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wneud cyfraniadau ystyrlon i gymdeithas.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Dr Catherine Sharp yn Brif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ymchwil Catherine yn ystyried sut i atal ac amddiffyn unigolion agored i niwed a phoblogaethau cyfan rhag niwed, ac i gefnogi newid ymddygiad cadarnhaol i hyrwyddo a gwella iechyd a llesiant yn effeithiol ar draws cwrs bywyd, tra hefyd yn ystyried y dirwedd polisi. Ar hyn o bryd hi yw arweinydd prosiect Amser i Siarad Iechyd y Cyhoedd, sef panel cenedlaethol cynrychioliadol o’r boblogaeth yng Nghymru, sy’n cynnal arolygon rheolaidd o aelodau’r cyhoedd i ddeall eu hagweddau, eu barn, eu hemosiynau a’u diddordebau ar amrywiaeth o bynciau iechyd y cyhoedd er mwyn llywio polisi ac ymarfer.
IBERS, Prifysgol Aberystwyth
Mae Dr Hannah Vallin yn ymchwilydd amlddisgyblaethol, sy’n arbenigo mewn metabar-godio DNA a dadansoddi eDNA ar gyfer ymchwil ecolegol a bioamrywiaeth. Ar ôl cwblhau ei PhD ar ddadansoddi deiet llysyorion, daliodd ddwy swydd cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ganolbwyntio ar ecosystemau daearol a morol. Mae Hannah yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Prifysgol Aberystwyth ac yn cyflwyno mewnwelediad o ran sut i fynd i’r afael â heriau Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, trefnu digwyddiadau effeithiol, meithrin cydweithredu rhyngddisgyblaethol, hyrwyddo cynhwysiant mewn ymchwil, cefnogi mentrau mentoriaeth, a gwella effaith ymchwil mewn meysydd fel ecoleg, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol Elusen Cofrestredig Rhif 1168622.
Registered office: The University Registry, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Cardiff CF10 3NS
Website by: Waters
Our survey software is powered by SmartSurvey