Medal Frances Hoggan 2024
Yr Athro Susan Baker, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Mae gwaith arloesol yr Athro Baker wedi cael effaith ryngwladol ddwys wrth fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ac amgylcheddol. Yn sgil gweithio ar draws gwahanol ddisgybldaethau, mae ei hymchwil wedi mynd i’r afael â materion hanfodol fel llygredd morol, diogelwch bwyd, adfer cynefinoedd, a chadwraeth bioamrywiaeth.
Mae ei hymroddiad i gyfiawnder yn amlwg yn ei ffocws ar lywodraethu, yn enwedig wrth sicrhau cyfranogiad cynhwysol â rhanddeiliaid ac ehangu lleisiau cymunedau ymylol wrth lunio polisi. Mae ei chyfraniadau yn cael eu hadlewyrchu ar draws y gwyddorau naturiol a chymdeithasol, ac wrth eu cymhwyso’n ymarferol. Trwy agor dadleuon hanfodol ar draws y gwyddorau ar yr hyn sy’n gyfystyr ag atebion cyfiawn, democrataidd a theg, mae hi wedi dod yn llais amlwg wrth ddatrys problemau amgylcheddol byd-eang y byd go iawn, gyda’i dylanwad yn ymestyn ar draws Cymru, yr UE a’r llwyfan rhyngwladol.
“Mae mynd i’r afael â’n hargyfwng amgylcheddol yn hanfodol ar gyfer dyfodol pob bywyd ar y Ddaear, ac mae’n anrhydedd mawr i mi fod Medal Frances Hoggan yn adlewyrchu pwysigrwydd y mater hwn. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein cyfrifoldeb cyffredin dros ddiogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac rwy’n ddiolchgar fy mod i wedi cyfrannu at y gwaith hanfodol hwn.”
Yr Athro Susan Baker