‘The Swansea Boys Who Built Bombs’
Mae’r rôl ganolog a chwaraeodd criw o wyddonwyr eithriadol o Abertawe i ddatblygu bom niwclear yn cael ei adrodd mewn cyfres radio tair rhan gan y BBC, sydd yn cael ei chyflwyno gan Elin Rhys FLSW ac sy’n cynnwys sawl Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru arall.
Dechreuodd y daith ar lefel gwbl ddamcaniaethol yn y 1920au, wrth i’r maes ffiseg gronynnau newydd gyrraedd Prifysgol Abertawe. Yno, byddai E.J.Williams o Geredigion yn mireinio’r sgiliau a arweiniodd ato’n cael y cyfle i weithio gyda’r ffisegydd Niels Bohr, enillydd gwobr Nobel.
Roedd Williams yn un o nifer o fyfyrwyr i ddod o Abertawe ar y pryd, yn eu plith, Lewis Roberts, efallai wedi’i ysgogi gan ei brofiad o weld ei dref enedigol yn cael ei bomio gan yr Almaenwyr. Roedd Roberts, ynghyd â Brian Flowers, yn fab i weinidog Cymreig, wedi’i drwytho yn y traddodiad heddychol a luniodd y ddadl am ataliaeth niwclear.
Roedd llawer o’r menywod, er enghraifft, a fyddai’n protestio yn ddiweddarach yn erbyn defnyddio taflegrau mordeithio yr Unol Daleithiau yng Nghomin Greenham, yn dod o Gymru, gan gynnwys Karmen Thomas ac Ann Pettitt.
Ar y pryd, roedd dadleuon moesegol yn cael eu cysgodi gan yr angen i gynhyrchu’r arfau a allai ddod â’r rhyfel i ben. Cafodd y gwaith ar radar a chanfod llongau tanfor gan Williams a ‘bachgen arall’ o Abertawe, Edward Taffy Brown, ei rannu gyda’r Americanwyr gan Churchill, fel rhan o’i ymdrechion i gael yr Unol Daleithiau i gymryd rhan yn y rhyfel.
Cefnogwyd y datblygiadau technolegol hyn gan arloesedd diwydiannol yng Nghymru,o waith arbrofol ar goethi wraniwm yn Rhydymwyn, ger yr Wyddgrug, i gynhyrchu nicel o radd uchel yn ‘Y Mond’ yng Nghlydach, a adeiladodd y rhwyllau a ddefnyddiwyd I wahanu isotopau wraniwm. Yn y modd hwn, cyrhaeddodd arbenigedd Cymru frig rhaglen A-Bomb yr Unol Daleithiau, Prosiect Manhattan, gyda Leslie Groves, a oedd â gwreiddiau yn y Rhyl, yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar y Prosiect. Byddai un o’r ychydig wyddonwyr benywaidd i dorri’r byd oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, Joan Strothers, hefyd yn gweithio ar Brosiect Manhattan, ar ôl i’w gwaith yn datblygu’r gwrthfesurydd radar, ‘chaff’, arwain ati’n cael ei gwahodd i weithio yn Berkeley, Califfornia.
Parhaodd yr arbenigedd a adeiladwyd yn Abertawe yn ystod y rhyfel ar ôl iddo orffen.
Chwaraeodd Roberts a Flowers ran bwysig mewn datblygu rhaglen niwclear annibynnol y DU, gan weithio ar gynhyrchu deunydd ymholltog yng nghyfleusterau adweithydd Harwell, tra bod Ieuan Maddock, mab i löwr o Orseinon, wedi datblygu’r offeryniaeth a’r delemetreg ar gyfer yr arfau.
Mae arbenigedd Abertawe yn dal i gael ei deimlo. Cynhyrchodd arweinyddiaeth yr adran ffiseg gan Frank Llewellyn Jones yn y 1950au a’r 1960au griw o wyddonwyr, gan gynnwys Dr Malcolm Jones, sydd bellach yn ffigwr uwch yn y Sefydliad Arfau Atomig yn Aldermaston, a’r Athro Lyn Evans FLSW, dylunydd y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr yn CERN.
Mae’n stori ryfeddol, sy’n cynnwys cyfraniadau gan nifer o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: Yr Athro John Baylis FLSW, yr Athro Mike Charlton FLSW, Dr Rowland Wynne FLSW a Dr Lyn Evans FLSW.
Gellir gwrando ar y tair rhaglen ar BBC Sounds tan 21 Hydref.