Rolau wedi’u hailddiffinio yn adlewyrchu ffocws polisi a thegwch
Mae’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar degwch a gwneud cyfraniad at drafodaethau polisi yn sail i’r newidiadau diweddar yn nheitlau swyddi dau aelod o’n huwch dîm rheoli.
Mae Helen Willson wedi dod yn ‘Bennaeth Tegwch ac Ymgysylltu’ (‘Rheolwr Ymgysylltu Strategol’ cynt) tra mae Fiona Dakin nawr yn ‘Bennaeth Polisi Cyhoeddus’ (o ‘Reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus’).
“Mae’n bosib nad yw newyddion ynghylch teitlau swyddi yn haeddu sylw,” meddai Olivia Harrison, y Prif Weithredwr, “ond mewn gwirionedd mae’n dynodi rhywbeth pwysig ynghylch pwy ydyn ni fel sefydliad.
“Mae gweithio gyda’n Cymrodorion i’w cynnwys hwy hyd yn oed yn fwy yn ein gweithgareddau yn parhau i fod yn rhan greiddiol o rôl Helen.
“Fodd bynnag, mae’r newid hwn i deitl ei swydd yn dangos ein pwyslais ar ‘degwch’ ac mae’n dweud y cyfan rydych chi angen ei wybod am ein hamcanion ar gyfer y Gymdeithas.
“Mae gennym ddull rhagweithiol o wreiddio tegwch yn ein sefydliad ac mae hyn yn amlwg yn y gwaith rydym wedi dechrau arno a’n hymrwymiad ar gyfer y dyfodol.
“Mae’n golygu ein bod wedi ymrwymo’n llawn i’n huchelgais barhaus am Gymrodoriaeth sy’n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Gall gweithio gyda’n Cymrodorion a’r cymunedau rydym yn perthyn iddynt helpu i gyflawni hynny.”
Mae’r newid i deitl swydd Fiona yn amlygu ein bwriad i ddefnyddio ein safle, ac arbenigedd ein Cymrodorion, i gynyddu ein rôl yn datblygu a thrafod polisi, p’un a yw hynny o fewn cyd-destun Cymreig neu du hwnt.
Mae hyn yn amlwg yn y gyfres ddiweddar o fyrddau crwn arloesi llwyddiannus yr ydym yn eu hehangu eleni i gynnwys mwy o ddisgyblaethau a meysydd polisi.