Eisteddfod 2024: Sylw i Ymchwil yn y Gymraeg
Bydd y sgil o ddisgrifio ymchwil cymhleth i gyhoedd gyffredinol yn cael ei phrofi mewn cystadleuaeth ‘Traethawd Tri Munud’ yn yr Eisteddfod eleni ym Mhontypridd.
Mae ein tîm Datblygu Ymchwilwyr wedi bod yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer aelodau Rhwydwaith YGC sy’n siarad Cymraeg i rannu a thrafod eu hymchwil yn Gymraeg, fel rhan o’n nod strategol i ddatblygu talent ymchwil yng Nghymru. Roedd ein Colocwiwm YGC 2024 ‘Cymru Gysylltiedig’, er enghraifft, yn cynnwys sgyrsiau-fflach a chyflwyniadau poster cyfrwng Cymraeg.
Mae’r tîm Datblygu Ymchwilwyr nawr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnal ‘Cystadleuaeth Triawd Tri Munud’ yn yr Eisteddfod eleni, ar 9 Awst ym Mhontypridd. Mae hwn yn gyfle i ymchwilwyr rannu eu hymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, ac â chynulleidfa gyffredinol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan chwe ymchwilydd, yn trafod ystod eang o bynciau pwysig a difyr:
Daniel Bryant (Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth) ar ddatblygiadau mewn polisi cyhoeddus ail gartrefi a dylanwad mudiadau cymdeithasol ar lywio’r datblygiadau hyn yng Nghymru a thu hwnt.
Elin Williams (Mathemateg, Prifysgol Caerdydd) ar sut y gall modelau mathemategol ein helpu i ddeall dylanwad y pandemig COVID ar ddefnydd o alcohol a’i ddylanwad ar iechyd, gofal cymdeithasol a chyfraddau trosedd yng Ngwent.
Ellis Evan Jones (Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd) ar chwilio am driniaethau newydd ar gyfer anhwylder prin a achosir gan broteinau diffygiol mewn lysosomau sy’n arwain at symptomau niwrolegol a datblygiadol difrifol, yn ogystal â hyd oes byrrach.
Gosia Rutecka (Cymraeg, Prifysgol Abertawe) ar batrymau cyfosodiadau’r iaith Gymraeg (geiriau sy’n ymddangos gyda’i gilydd yn aml) a sut yr arweiniodd ei hymchwil ati’n datblygu geiriadur o gyfosodiadau Cymraeg.
Lynne Davies (Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd) ar rôl addysg cyfrwng Cymraeg yn nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a beth y gellir ei ddysgu o archwilio profiadau’r rhai a ddaeth at yr iaith yn hwyrach nag eraill.
Megan Beth Sass (Cymraeg, Prifysgol Caerdydd) ar rôl creadigrwydd yn y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru a’r heriau a’r cyfleoedd creadigrwydd i athrawon.
Bydd Cymrodorion y Gymdeithas yn cefnogi’r digwyddiad, gan gynnwys Elin Rhys FLSW, yr Athro Alan Shore FLSW a Dr Aled Eirug FLSW. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn noddi’r wobr am y cyflwyniad gorau.
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar stondin y Coleg Cymraeg yn yr Eisteddfod ar 9 Awst am 1pm ar gyfer digwyddiad cyffrous i hyrwyddo ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr Cymraeg. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gwrdd â’n siaradwyr a’n panelwyr ac i gymryd rhan mewn sgyrsiau am ymchwil yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk