Academi Ifanc y DU yn penodi 32 o aelodau newydd
Mae tri deg dau o arweinwyr datblygol ledled y DU wedi cael eu dethol i fod yn aelodau mwyaf newydd Academi Ifanc y DU, sef rhwydwaith ar gyfer ymchwilwyr ac arbenigwyr gyrfa gynnar a sefydlwyd i helpu mynd i’r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid go iawn.
O bolisi i beirianneg, addysg, archeoleg a’r diwydiannau creadigol, mae’r garfan newydd o aelodau yn dod o ystod eang o sectorau ac mae pob un wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu maes.
Bydd Academi Ifanc y Du yn eu darparu gyda fforwm i gyfnewid syniadau, rhannu arbenigedd a chymryd rhan mewn trafodaethau lleol a byd-eang gyda’r nod o fynd i’r afael â heriau yn seiliedig ar feysydd sydd o bwys iddyn nhw.
Gan siarad ar ran grŵp gweithredol Academi Ifanc y DU, dywedodd Alistair McConnel, Athro Cynorthwyol mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Heriot-Watt: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu ein haelodau newydd i Academi Ifanc y DU. Mae’n amser mor gyffrous i ymuno â’r tîm. Byddant yn gallu helpu i ddatblygu dyheadau’r academi ifanc ar draws meysydd maen nhw’n frwd amdanynt, boed hynny yn golli bioamrywiaeth, newid hinsawdd neu anghyfartaledd cymdeithasol.
“Rydym newydd ddechrau cynllunio ein prif brosiectau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, felly bydd digon gan yr aelodau newydd i’w wneud o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw, i gael fy ysbrydoli gan eu syniadau amrywiol, a gweithio ochr yn ochr â nhw er mwyn creu newid cadarnhaol er lles pawb.”
Mae rhaglenni gwaith a mentrau sy’n cael eu harwain gan aelodau eisoes ar waith, gyda’r nod o fynd i’r afael â blaenoriaethau strategol y mae’r academi ifanc wedi eu gosod allan ar gyfer ei flwyddyn gyntaf. Bydd y cyntaf o brosiectau mawr yr academi ifanc, fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn canolbwyntio ar raglen o gefnogaeth i ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol bregus, yn y DU a led-led y byd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu rolau ar 19 Mawrth 2024, ac mae eu haelodaeth am dymor o bum mlynedd.
Rhestr lawn o aelodau (yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw):
William Allen
British Academy Postdoctoral Fellow
University of Oxford and Nuffield College
Joseph Bentley
Managing Director
ACT Medical
Sifeng Bi
Lecturer (Mechanical and Aerospace Engineering)
University of Strathclyde
Precious Chatterje-Doody
Senior Lecturer in Politics and International Studies
The Open University
Jennifer Clarke
Operations Leader for the Chief Scientist Directorate
NPL Management Limited
Daniele Cotton
Doctoral Research Fellow (Bioengineering) and Training Clinician (Oncology)
University of Oxford
Arthur Dudney
Director of Cultural Programmes
Arcadia
Steven Egan
Program Associate for Washington Ireland Program Academy and Forum programs
Washington Ireland Program
Sophie Frost
Lecturer in Creative Leadership
University of Creative Arts
Nikita Hari
Head of Teaching and Design Support Group, Department of Engineering
University of Oxford
Henry Ibitolu
PhD Researcher (Future Cities Engineering)
The University of Edinburgh/University of Glasgow
Andrew Jupp
Assistant Professor in Main-Group Chemistry
University of Birmingham
Hiba Khan
Chief Revenue Officer
Medics.Academy
Antonia Liguori
Professor of Participatory Storytelling and Public Policy
Teesside University, School of Social Sciences, Humanities & Law
Alexander Lloyd
Research Fellow (in Clinical, Education and Health Psychology)
University College London
Emily Lowthian
Lecturer in Education
Swansea University
Catherine Manning
Lecturer in Psychology
University of Reading
Síle Molloy
Senior Lecturer in Epidemiology
St George’s, University of London
Imrose Muhit
Lecturer in Sustainable Infrastructure Engineering
Teesside University
Christoph Nehrbass-Ahles
Senior Scientist
National Physical Laboratory
Eóin Parkinson
Lecturer in Biological Archaeology
University College Cork & Queen’s University Belfast
Marloes Peeters
Professor in Engineering Biology
University of Manchester
William Reynolds
Senior Machine Learning Engineer
PhysicsX
Sandeep Sandhu
Head of Stakeholder Relationships
Innovate UK Business Connect
Dhruti Shah
Creative Lead
Have You Thought About
Timor Sharan
Senior Research Associate
Centre on Armed Groups
Clare Siviter-Groschwald
Associate Professor in French Theatre
University of Bristol
Priyanka Surana
Senior Scientific Manager
Wellcome Sanger Institute
Rebecca Tapscott
Lecturer (Politics Department)
University of York
Marc Tilley
Humanitarian Affairs Adviser
Freelance / Global Centre for Climate Mobility
Rachel Tough
Doctoral Researcher (School of Global Development)
University of East Anglia
Kevin Woollard
Senior Director
AstraZeneca