Dymuna Cynghrair yr Academïau Celtaidd (Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin) eich gwahodd i arddangosfa effaith a rhagoriaeth ymchwil a grëwyd drwy gydweithrediadau rhwng Cymru, Yr Alban ac Iwerddon.
Byddwn yn dysgu am hanes Gwyddelig a Chymreig-Iddewig, gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor a Trinity College Dulyn, wedi’i ariannu gan gynllun cydweithredu ymchwil peilot rhwng Cymru ac Iwerddon, gan Agile Cymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil llwyddiannus gan gydweithrediadau blaenorol rhwng Cymru ac Iwerddon, a grëodd fuddion i’r ddwy wlad. Bydd cyflwyniadau gan Grantiau Rhwydwaith Dwy Ochrog Iwerddon-Yr Alban RIA-RSE yn cynnig glaslun ar gyfer llwyddiant cydweithrediad Cymru ac Iwerddon.
Cyn i’r digwyddiad ddod i ben, bydd panel o arbenigwyr yn trafod y camau nesaf o ran meithrin cysylltiadau ymchwil agosach rhwng Cymru ac Iwerddon.
Byddai Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin yn hynod falch pe gallech ymuno â ni yn Nulyn ar ddydd Mawrth 12 Mawrth ar gyfer y dathliad hwn o lwyddiant, ac i drafod y dyfodol. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, ac fe anfonwn fwy o fanylion draw yn fuan.