Cymdeithas yn Lansio Cam Nesaf o’r Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil
Heddiw, mae’n bleser gennym lansio ein cynllun ariannu Grantiau Gweithdai Ymchwil, 2022.
Mae’r cynllun grant wedi’i gynllunio i annog ymchwilio’n gydweithredol i gais ymchwil sydd ar gam cynnar yn ei ddatblygiad, ac fe’i cefnogir gan CCAUC.
Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot y llynedd, rydym wedi datblygu tair ffrwd ar gyfer 2022:
- Astudiaethau Cymru;
- Ymchwilydd Gyrfa Cynnar;
- Y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i annog cydweithredu hwyluso rhyngweithio deallusol a chreadigol a phartneriaeth rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ac o amrywiaeth o sefydliadau, o fewn y gymuned academaidd, y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector.
Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect.
Sut i wneud cais am ein Cynllun Grantiau ar gyfer Gweithdai Ymchwil |
I gefnogi lansio ein rownd ddiweddaraf o Grantiau ar gyfer Gweithdai Ymchwil, byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 11 Hydref i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae’r cynllun yn gweithio, a sut i wneud cais am un o’r grantiau. Cadwch eich lle yma. |
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Tachwedd 2022.