Newyddion y Cymrodyr: Gwobrau, Penodiadau, Cofebion ac Arloesi
30 Mehefin, 2022
- Llongyfarchiadau mawr i’r Cymrodyr a enwyd ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar.
- Mae’r Athro Emeritws (Barddoniaeth), Menna Elfyn, wedi ennill Gwobr fawreddog Cholmondeley.
- Mae’r Athro Angela V. John wedi olynu’r diweddar Athro Hywel Francis fel Llywydd Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.
- Mae Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei dyfarnu i’r Athro Robin Williams am ei gyfraniad gydol oes i wyddoniaeth.
- Mae’r Athro David Evans wedi ysgrifennu adroddiad manwl ar fywyd a gwaith Syr Vaughan Jones ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol.
- Yn y blog hwn, mae’r Athro Kevin Morgan yn dadlau mai dim ond drwy fynd i’r afael ag arloesedd cymdeithasol y gall llwyddiant Partneriaethau newydd yr UE ar gyfer Arloesi Rhanbarthol lwyddo.