Grŵp Cynghori ar Gyfer Datblygu Ymchwilwyr
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi bod yn edrych ar ffyrdd o dyfu ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a sicrhau ei fod yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu ymchwilwyr.
Ein nod yw creu cymuned o ymchwilwyr ar draws Cymru.
Rydym eisiau gwella’r amgylchedd ymchwil, er mwyn cynyddu cydweithrediad drwy gefnogi ymchwilwyr yn eu gyrfaoedd – pa gyfeiriad bynnag maen nhw’n ei gymryd.
Rydym nawr yn chwilio am hyd at dau Gymrawd sy’n angerddol am wella ansawdd y profiad gyrfa gynnar yng Nghymru, i ymuno â’n Grŵp Cynghori newydd ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
Bydd y Grŵp Cynghori yn ein helpu i osod y cyfeiriad ar gyfer ein gwaith gydag ymchwilwyr gyrfa cynnar a chanol, i sicrhau bod y rhaglenni a’r gweithgareddau sy’n cael eu dyfeisio yn ateb anghenion y grwpiau hyn.
Bydd hyd at bedwar Ymchwilydd Gyrfa Gynnar yn cael eu dewis yn gweithio gyda’r Cymrodyr penodedig dros ddwy flynedd, i gynllunio sut y gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru ychwanegu gwerth pellach at y dirwedd ymchwil heb ddyblygu gwaith. Gan fod y Grŵp Cynghori yn fenter newydd, byddwn yn bwriadu cyfarfod ar-lein o leiaf bedair gwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Byddwch yn ein helpu i ddeall y rhwystrau ar gyfer datblygu ymchwilwyr, ac yn darparu argymhellion i’n helpu i’w goresgyn a chyngor strategol ar gyfeiriad y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn flaenoriaeth i’r Gymdeithas, a bydd disgwyl i’r grŵp cynghori gynnwys hyn yn ei benderfyniadau.
I wneud cais, cwblhewch y Datganiad o Ddiddordeb erbyn 5.00pm ar 30 Mehefin 2022, sy’n cynnwys lle ar gyfer datganiad cefnogol o 500 gair. Byddwn yn chwilio am ymgeiswyr o gymysgedd o ddisgyblaethau a chefndiroedd i alluogi amrywiaeth o safbwyntiau.