Yr Athro David Wyn Jones yn cynghori’r Llyfrgell Brydeinig ar Arddangosfa Beethoven
![](https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/wp-content/uploads/2020/04/Beethoven-Mahler-original-1-scaled.jpg)
Mae’r Athro David Wyn Jones (Prifysgol Caerdydd) yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ar ei Harddangosfa Beethoven sy’n dathlu dau ganmlwyddiant a hanner geni’r cyfansoddwr.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ebrill 2021.
Bydd yr Athro Jones hefyd yn traddodi darlith gyhoeddus yn y Llyfrgell Brydeinig ar 21 Ionawr 2021 â’r teitl: ‘Beethoven’s Eroica Symphony. What’s it got do with Napoleon and why has history marginalised a rival composer, Anton Eberl’.
Mae’r arddangosfa a’r ddarlith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau lle bydd y Llyfrgell Brydeinig yn dathlu’r cyfansoddwr, a gydnabyddir yn un o’r cyfansoddwyr gorau a mwyaf dylanwadol erioed.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys eitemau prin o gasgliad sylweddol y Llyfrgell o gerddoriaeth wedi’i hargraffu a cherddoriaeth llawysgrif.
Bydd rhagor o fanylion ar gael yn agosach at yr amser o wefan y Llyfrgell Brydeinig.
(Delwedd: Joseph Willibrord Mähler / Parth cyhoeddus)