Dyfodol Ein Hiechyd – cyfres darlithoedd y Gymdeithas yn 2019
Gyda’r GIG yn dathlu 70 o flynyddoedd, mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi cyfres nodedig o ddarlithoedd ar iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Caiff y gyfres ei lansio yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr 2019 gyda darlith bwysig gan Syr Leszek Borysiewicz, yn edrych ar yr hyn fydd gan y 70 mlynedd nesaf i’w cynnig i’n gwasanaeth iechyd. Cynhelir digwyddiadau eraill drwy Gymru gan ganolbwyntio ar bynciau cyfredol allweddol gan gynnwys iechyd rhywiol, economeg iechyd cyhoeddus a marw yn y byd heddiw. Ceir rhestr lawn isod.
Mae pob darlith ar agor i bawb ac am ddim, ac i ddilyn ceir sesiwn holi ac ateb gyda’r siaradwr/wyr.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uwch Swyddog Gweithredol, Dr Sarah Morse.
Digwyddiadau’r gyfres
Cliciwch yma i fynd i’n tudalen Eventbrite, lle gallwch chi gofrestru ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a chael rhagor o wybodaeth.
Dyddiad | Teitl | Partner/lleoliad |
---|---|---|
17 Ionawr 2019 | The NHS: A Success, But Where Next? Yr Athro Sir Leszek Borysiewicz FLSW | Prifysgol Caerdydd |
6 Chwefror 2019 | The Future of Health and Healthcare in a Changing Climate Yr Athro Sir Andy Haines | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - campws Caerfyrddin |
13 Chwefror 2019 | A Medical School for Swansea, West Wales and the World Yr Athro Julian Hopkin & Yr Athro Keith Lloyd FLSW | Prifysgol Abertawe |
20 Chwefror 2019 | ‘Don’t Die of Ignorance’: The Impact of Health Promotion and Prevention in the Context of HIV Dr Olwen Williams FLSW | Prifysgol Glyndŵr Wrexham |
21 Chwefror 2019 | The NHS in Wales: A Health Economist’sPerspective on the Next 70 Years Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards FLSW | Prifysgol Bangor |
4 Mawrth 2019 | Dying in Today’s World Yr Athro y Farwnes llora Finley o Landaf FLSW | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
12 Mawrth 2019 | Beyond the NHS: Is Health Really 'Global'? Yr Athro Colin McInnes | Prifysgol Aberystwyth |
9 Ebrill 2019 | Is Free Universal Health Coverage Sustainable? Perspectives from NHS General Practice for future healthcare in the UK and beyond Yr Athro Helen Stokes-Lampard | Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru / y Deml Heddwch, Caerdydd |