Ble nesaf i Astudiaethau Cymreig? Ailgychwyn y sgwrs

Mae Astudiaethau Cymreig yn ymwneud â deall nodweddion diwylliannol, cymdeithasol a chorfforol unigryw Cymru, a sut maen nhw’n cysylltu â’r byd ehangach.

Mae ‘Ble nesaf i Astudiaethau Cymreig’, ein digwyddiad yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn, yn edrych yn fanwl ar beth yw Astudiaethau Cymreig, a beth allai fod.

Rhoddwyd llais i’r syniad o’r cysyniad penodol hwn – Astudiaethau Cymreig – gan yr Athro M. Wynn Thomas FLSW yn ‘Studying Wales Today: A Micro-cosmopolitan Approach’, darlith flynyddol 2016 Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Yn ei ddarlith, amlinellodd yr Athro Thomas y camau cynnar yr oedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn eu cymryd i roi statws diffiniedig i Astudiaethau Cymreig. Soniodd am ymchwydd o ymchwil amlddisgyblaethol dros yr ugain mlynedd diwethaf am Gymru ddoe a heddiw, ond rhybuddiodd fod ymchwydd o’r fath mewn perygl o golli llawer o’i egni posibl. ‘Does dim ymdrech wedi cael ei wneud eto i gydlynu, neu i gyfleu unrhyw beth fel graddfa’r cyflawniad mawr rhyfeddol hwn.’ meddai. “Felly, mae’n parhau i fod yn ased cudd, heb ei ecsbloetio, o’r system addysg uwch fodern.”

Cafodd Astudiaethau Cymreig ei greu felly fel ffordd o gofnodi a rhoi trosolwg o’r holl weithgarwch hwn; gallai ymchwilwyr mewn meysydd gwahanol ddarganfod am waith mewn disgyblaethau neu feysydd pwnc eraill oedd yn gorgyffwrdd â’u cysylltiadau a’u cydweithrediadau eu hunain, gan sbarduno cysylltiadau a chydweithrediadau.

Daeth gwaith cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru i ben gyda Chiplun o ymchwil Astudiaethau Cymreig, llyfryn a ddaeth â dros ddeugain o enghreifftiau o ymchwil, prosiectau a mentrau Astudiaethau Cymreig at ei gilydd ar draws llawer o sefydliadau a disgyblaethau academaidd. Tynnodd y llyfryn sylw at waith oedd yn edrych i’r dyfodol, yn hytrach na gwaith oedd yn styc mewn cynrychioliadau ystrydebol o Gymru: o ymchwilio i ganfyddiadau pobl ifanc o’u cymunedau, eu cenedl a’r Gymraeg, i ailddarganfod lleisiau wedi’u hanghofio mewn llenyddiaeth; o ymchwilio i etifeddiaeth diwydiant trwm, i atebion arloesol ar gyfer newid hinsawdd.

Lansiwyd Ciplun o Ymchwil Astudiaethau Cymreig  ddiwedd mis Ionawr 2020. Ddeufis yn ddiweddarach, tarodd y pandemig ac yn sgil hynny, fe stopiodd peth o’r momentwm oedd yn dechrau cael ei gasglu mewn perthynas ag  Astudiaethau Cymreig.

Mae’r digwyddiad yn Aberystwyth yn ceisio ailddechrau pethau unwaith eto. Bydd yn rhoi cyfle i fynychwyr ailddechrau’r sgwrs ac adeiladu’r achos dros ymchwil ac arloesi sy’n dod o dan faner Astudiaethau Cymreig. Rydym eisiau i lunwyr polisi a gwleidyddion Cymru glywed yr achos hwnnw.

Dim ond llond llaw o docynnau sydd ar ôl ar gyfer y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth. Bydd mynychwyr yn clywed cyflwyniadau byr gan yr Athro Helen Fulton FLSW a’r Athro Rhys Jones FLSW, gyda’u safbwyntiau fel ymchwilwyr blaenllaw sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd o Astudiaethau Cymreig, a chan Meg Hughes o Medr, a fydd yn helpu i osod ‘Astudiaethau Cymreig’ o fewn y cyd-destun addysg drydyddol ehangach.

Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Wasg Prifysgol Cymru ar eu stondin, rhwydweithio gyda mynychwyr o ystod eang o ddisgyblaethau, a gweld canlyniadau dadansoddiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru o astudiaethau achos Astudiaethau Cymreig yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

“Mae angen i Gymru fynd ati i ddiogelu a hyrwyddo’r mentrau ymchwil, ar draws pob disgyblaeth academaidd, sy’n ein galluogi i ddeall a pharchu’r cymysgedd penodol o gymhlethdodau sy’n gwneud Cymru’n unigryw,” meddai’r Athro Thomas yn ei ddarlith yn 2016. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i wneud synnwyr o’r cymhlethdodau hynny nawr.

yn ôl i'r brig