Y Gymdeithas yn Ymateb i Ymgynghoriad REF28
Mae’r effaith ar lwyth gwaith, hyfforddiant i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a’r effaith ar gyflwyniadau Cymraeg ymhlith y materion a godwyd yn ein hymateb i ymgynghoriad diweddar gan UKRI ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2028.
Rydym yn cefnogi’n gryf y dyheadau cyffredinol a fynegwyd yn y ddogfen ynghylch diwylliant ymchwil, amrywiaeth a chynhwysiant, ond rydym yn parhau i bryderu y gallai’r pwysau a’r grymoedd y mae sefydliadau AU yn eu teimlo yn ystod y broses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil arwain at ganlyniadau aneglur, anfwriadol. Rydym yn annog pwyll wrth feddwl y gellir ac y dylid defnyddio proses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i greu’r holl newidiadau a ddymunir mewn diwylliant ymchwil, cynwysoldeb ac amrywiaeth.
Canolbwyntiodd ein sylwadau ar y canlynol:
- llwyth gwaith gweinyddol;
- effaith bosibl ar ymchwilwyr unigol, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig neu gan grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol
- pwysau y gellid ei wynebu gan academyddion sydd yn cael eu cyflogi ar gontractau addysgu yn unig;
- hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig;
- trothwy isel ar gyfer dangos cyswllt sylweddol unigolyn â sefydliad;
- perygl y bydd llai o allbynnau o Gymru yn cael eu cynhyrchu neu eu dewis i’w cyflwyno.