Colocwiwm YGC 2024

Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2024

Cymru Gysylltiedig

Cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru Golocwiwm 2024 ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Mehefin 2024. Daeth y Colocwiwm ag ymchwilwyr o bob rhan o Gymru ac ystod eang o gefndiroedd disgyblaethol at ei gilydd ar gyfer diwrnod cyffrous o rwydweithio a chyfnewid gwybodaeth.

Y Colocwiwm blynyddol yw canolbwynt ein Rhwydwaith, a sefydlwyd i gryfhau’r diwylliant ymchwil yng Nghymru a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol o ymchwilwyr i dyfu eu doniau ymchwil. Cafodd y rhaglen o weithgareddau, a oedd yn cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a phrofiad ymarferol, ei chyd-ddatblygu gyda’n Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr a phwyllgor o lysgenhadon ymchwil o brifysgolion ar draws Cymru. Dewiswyd y thema ‘Cymru Gysylltiedig’ ar gyfer y Colocwiwm i adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith ymchwil cydlynol a rhyngddisgyblaethol yng Nghymru ac i gysylltu ymchwilwyr â pholisi ac ymarfer.

Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, fod thema’r Colocwiwm yn dangos “ymrwymiad i gydweithio, sy’n ganolog i wneud Cymru’n lle gwych i wneud ymchwil” a bod y Colocwiwm yn rhoi cyfle i ymchwilwyr “arddangos eu gwaith mewn digwyddiad sydd wedi’i ddylunio ar eu cyfer, ac yr un mor bwysig, sydd wedi’i lunio ganddynt.”

Uchafbwyntiau’r Rhaglen

Mae’r Colocwiwm yn llwyfan i ymchwilwyr arddangos eu gwaith, meithrin cysylltiadau â chyd-ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a derbyn hyfforddiant wedi’i deilwra ar bynciau pwysig megis ysgrifennu grantiau, dulliau ymchwil ac effaith ymchwil.

Roedd uchafbwyntiau rhaglen Colocwiwm 2024 yn cynnwys:

Cystadleuaeth Poster Ymchwil

Cynhaliodd y Colocwiwm gystadleuaeth boster, a noddwyd gan Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yr Academi Brydeinig. Barnwyd y posteri gan yr Athro Raluca Radulescu FLSW (Prifysgol Bangor), yr Athro Yueng-Djern Lenn FLSW (Prifysgol Bangor), ac Isis Menteth-Wheelwright (Academi Brydeinig).

Y posteri buddugol oedd:

  1. Dr Giulia Bovolenta, Prifysgol Bangor, ‘Sut ydym ni’n defnyddio’r cof wrth ddysgu iaith dramor?’
  2. Dr Lucy Perry, Prifysgol Abertawe, ‘Archwilio Canfyddiadau o Lygredd Aer yng Nghymru: Astudiaeth Arolwg Peilot’
  3. Ellis Evan Jones, Prifysgol Caerdydd, ‘Darganfod triniaethau newydd ar gyfer clefydau niwrolegol gan ddefnyddio dulliau Bioffisegol a Chrisialograffig’

Diolchiadau

Hoffai Cymdeithas Ddysgedig Cymru ddiolch i bawb a helpodd i wneud y Colocwiwm yn llwyddiant; gan gynnwys Prifysgol Bangor a’r staff, Pwyllgor y Colocwiwm ac aelodau’r grŵp Cynghori, a phawb a fynychodd y digwyddiad ac a gyflwynodd yn ystod y dydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Colocwiwm ECR neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Bwyllgor y Colocwiwm ar gyfer 2025, anfonwch e-bost atom yn researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.

Newyddion RYGC Diweddaraf