Colocwiwm YGC 2025

Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2025

Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf

3ydd a 4ydd Gorffennaf 2025

Ydych chi’n Ymchwilydd Gyrfa Gynnar sydd eisiau ehangu eich rhwydweithiau, dod o hyd i gyfleoedd newydd i gydweithio, ac ehangu eich proffil ymchwilio?

Ymunwch â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer eu Trydydd Colocwiwm Blynyddol Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, lle cewch gyfle i:

  • Gyflwyno eich ymchwil i gynulleidfa ryngddisgyblaethol gefnogol ac ymgysylltiol
  • Datblygu cysylltiadau gydag ymchwilwyr, Cymrodyr y Gymdeithas, gwneuthurwyr polisi, ac ymarferwyr
  • Datblygu eich sgiliau drwy amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu

Mae rhaglen y Gynhadledd yn cael ei datblygu ar y cyd gan ein Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol, a fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni gofynion datblygu proffesiynol ymchwilwyr yng Nghymru. Mae’n bleser gennym bartneru â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal Colocwiwm ECR eleni yng Nghaerdydd

Anogir ymchwilwyr sy’n gweithio o fewn y byd academaidd a thu hwnt i fynychu Rydym hefyd yn croesawu pobl sydd yng nghanol eu gyrfa i’r Colocwiwm. Bydd cofrestru ar gyfer y Colocwiwm yn agor fis Ebrill.

Bwrsariaethau Llety a Theithio

Bydd y Colocwiwm yn cael ei gynnal dros ddau hanner diwrnod. Mae bwrsariaethau teithio a llety ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Rhoddir blaenoriaeth yn seiliedig ar angen, pellter teithio, ac i gyflwynwyr. Os ydych yn cyflwyno crynodeb i’w gyflwyno yn y Colocwiwm ac angen bwrsariaeth teithio, nodwch hyn ar y ffurflen Cais am Grynodebau. Bydd gwybodaeth ar gyfer Aelodau Cofrestredig Cyffredinol ar gael pan fydd y cofrestriad yn agor ym mis Ebrill 2025.

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

Galw am Grynodebau

Dyddiau Cau: 30 Ebrill 2025, 4pm

Rydym nawr yn gwahodd cyflwyniadau crynodeb ar gyfer Sgyrsiau Fflach 3 munud a Phosteri Ymchwil.

Thema’r Colocwiwm yw ‘Cymru Gysylltiedig’, ac rydym yn gwahodd cynigion sy’n unol ag un o Saith Nod Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

Rydym hefyd yn annog cynigion sydd â chwmpas rhyngwladol i wneud cais. Os yw eich ymchwil yn cael ei gynnal y tu allan i Gymru, gallwch gyfeirio’n hytrach at 17 Nod Datblygu Cynaliadwyedd yr UE.

Dylai posteri ymchwil fod o faint A0 (84.1x 118.9 cm) a defnyddio cynllun portread.

Canllawiau Cyflwyno

  1. Rhaid cyflwyno crynodebau drwy gwblhau ein ffurflen arlein.
  2. Rhaid cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  3. Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan y Tîm Datblygu Ymchwil ac aelodau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
  4. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais cyn diwedd mis Mai.
  5. Os nad ydych yn cael eich dewis ar gyfer sgwrs fflach, byddwn yn ystyried eich cais yn awtomatig ar gyfer poster ymchwil.
  6. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno unrhyw sleidiau cyflwyniad a phosteri ymchwil cyn y Colocwiwm.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Colocwiwm, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.

Ffurflen Gyswllt

Sylwch: Bydd unrhyw ddata a gyflwynir drwy ein ffurflen gysylltu’n cael ei gadw yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.