Polisi Preifatrwydd

Mae preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig iawn i ni. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn defnyddio eich data personol, i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, ac yn gallu bod yn hyderus ynghylch rhoi eich gwybodaeth i ni.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol os ydych chi’n Gymrawd o’r Gymdeithas, yn aelod o staff, neu os ydych chi’n defnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau, yn tanysgrifio i’n bwletinau, cylchlythyrau a phost, yn mynychu ein digwyddiadau, neu’n anfon negeseuon e-bost atom, yn ein ffonio neu’n ysgrifennu atom.

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol, a dim ond gyda sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw y byddwn yn eu rhannu, pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.  Mae preifatrwydd a diogelwch eich data yn cael ei sicrhau.


Pwy ydyn ‘ni’?

Yn y polisi hwn, pryd bynnag y gwelwch y geiriau ‘rydym’ ‘ni’, ‘ein’, ‘y Gymdeithas’, ‘CDC’, mae’n cyfeirio at Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Elusen SIarter Gofrestredig 1168622) yn sefydliad elusennol, sy’n ceisio dathlu, cydnabod, cadw, diogelu ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r polisi preifatrwydd hwn neu ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol, anfonwch nhw at clerk@lsw.wales.ac.uk, neu postiwch nhw at y Clerc, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS.


Pa ddata personol rydyn ni’n eu casglu?

Bydd eich data personol (unrhyw wybodaeth sy’n eich adnabod chi, neu y gellir ei adnabod fel gwybodaeth sy’n ymwneud â chi’n bersonol, er enghraifft, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost) yn cael eu casglu a’u defnyddio gennym ni. Dim ond y data personol sydd ei angen arnom ni y byddwn yn eu casglu.

Rydym yn casglu data personol mewn cysylltiad ag ethol cymrodyr newydd, cyflogi staff, cynnal digwyddiadau, dyfarnu grantiau a medalau, a rheoli a defnyddio ein rhestrau postio.

Gallwch roi eich data personol i ni trwy lenwi ffurflenni enwebu, ffurflenni cyswllt, ffurflenni eraill ar ein gwefan, trwy gwblhau archwiliad sgiliau CDC, neu drwy ohebu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy arolygon, neu drwy ymuno fel Cymrawd.

Gall y data personol hwn a roddwch i ni gynnwys enw, teitl, cyfeiriad, dyddiad geni, oedran, rhywedd, statws cyflogaeth, gwybodaeth ddemograffig, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn, disgrifiad personol, ffotograffau, hanes gwaith, hanes ymchwil, manylion cyhoeddiadau a barnau.


Data personol a ddarperir gennych chi

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, er enghraifft:

  • Manylion personol (enw, dyddiad geni, e-bost, cyfeiriad, ffôn, ac ati) pan fyddwch yn ymuno fel Cymrawd
  • Gwybodaeth ariannol (gwybodaeth am daliadau fel cerdyn credyd neu ddebyd neu fanylion debyd uniongyrchol, ac a yw rhoddion yn rhoddion cymorth rhodd, manylion banc ar gyfer talu treuliau)
  • Eich barnau a’ch agweddau am y Gymdeithas

Data personol a grëwyd gan eich ymwneud â ni

Bydd eich gweithgareddau a’ch ymwneud â ni yn arwain at greu data personol. Gallai hyn gynnwys manylion am sut rydych chi wedi ein helpu drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau CDC. Os byddwch yn penderfynu rhoi rhodd i ni, byddwn yn cadw cofnodion o pryd a faint rydych wedi’i roi at ddibenion cyfrifyddu.


Gwybodaeth rydyn ni’n ei chynhyrchu

Rydym yn cynnal ymchwil a dadansoddiad o’r wybodaeth sydd gennym, sydd yn gallu yn ei dro, cynhyrchu data personol. Er enghraifft, drwy ddadansoddi eich diddordebau a’ch ymwneud â’n gwaith, efallai y byddwn yn gallu adeiladu proffil sy’n ein helpu i benderfynu pa rai o’n ffyrdd o gyfathrebu sy’n debygol o fod o ddiddordeb i chi. Mae’r adrannau Ymchwil a Phroffilio yn rhoi mwy o fanylion am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth ar gyfer proffilio.


Gwybodaeth gan drydydd parti

Nid ydym byth yn prynu data allanol gan drydydd parti. Oni bai ein bod yn datgan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad arall neu ddigwyddiad neu brosiect, ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon at ddibenion marchnata.


Data personol sensitif

Ar adegau, byddwn yn casglu data personol sensitif ar gyfer monitro Cyfle Cyfartal, ond dim ond mewn grwpiau y byddwn yn dadansoddi hyn.


Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Byddwn ond yn defnyddio eich data personol ar seiliau cyfreithlon perthnasol, fel y caniateir gan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE (GDPR) / Deddf Diogelu Data’r DU a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig.

Bydd data personol a ddarperir i ni yn cael ei ddefnyddio at y diben neu’r dibenion a amlinellir mewn unrhyw hysbysiad prosesu teg mewn modd tryloyw ar adeg ei gasglu neu gofrestru lle bo hynny’n briodol, yn unol ag unrhyw hoffterau a fynegwch. Os gofynnir i ni gan yr heddlu, neu gan unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth arall sy’n ymchwilio i weithgareddau anghyfreithlon tybiedig, efallai y bydd angen i ni ddarparu eich data personol.

Efallai y bydd eich data personol yn cael eu casglu a’u defnyddio i’n helpu i gyflawni ein gweithgareddau elusennol; Isod ceir prif ddefnyddiau eich data sy’n dibynnu ar natur ein perthynas â chi, a sut rydych chi’n rhyngweithio â’n gwasanaethau, ein gwefannau a’n gweithgareddau amrywiol.


Ffyrdd CDC o gyfathrebu

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni, felly byddwn bob amser yn cadw eich manylion yn ddiogel. Hoffem ddefnyddio eich manylion i gadw mewn cysylltiad am weithgareddau’r Gymdeithas a allai fod o ddiddordeb i chi.

Os ydych yn caniatáu i ni gysylltu â chi, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn seiliedig ar yr hyn sydd fwyaf perthnasol i chi, neu bethau rydych chi wedi dweud wrthym fod gennych ddiddordeb ynddynt. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda ni, newidiadau tanysgrifio, digwyddiadau’r Gymdeithas, targedu a data demograffig, bwletinau Cymrodyr, datblygu ymchwilwyr, a chylchlythyrau a phost untro ymchwilwyr gyrfa gynnar; ceisiadau am grantiau, enwebiadau’r Gymdeithas ac etholiadau’r Gymdeithas.

Os ydych yn caniatáu i ni gysylltu â chi, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn seiliedig ar yr hyn sydd fwyaf perthnasol i chi, neu bethau rydych chi wedi dweud wrthym fod gennych ddiddordeb ynddynt. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda ni, newidiadau tanysgrifio, digwyddiadau’r Gymdeithas, bwletinau Cymrodyr, enwebiadau’r Gymdeithas ac etholiadau’r Gymdeithas.

Byddwn ond yn anfon y rhain atoch os ydych yn cytuno i’w derbyn, ac ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon i’w cynnwys yn eu deunydd marchnata. Os ydych yn cytuno i dderbyn gohebiaeth gennym ni, gallwch newid eich meddwl yn nes ymlaen.

Fodd bynnag, os byddwch yn dweud wrthym nad ydych chi eisiau derbyn gohebiaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yna efallai na fyddwch yn clywed am ddigwyddiadau neu waith arall rydym yn ei wneud a allai fod o ddiddordeb i chi.

Weithiau, byddwn yn defnyddio Mailchimp a Smart Survey i gyfathrebu gyda chi ar ein rhan. Byddwn ond yn defnyddio trydydd parti arall pan rydym yn hyderus y bydd y trydydd parti yn trin eich data yn ddiogel, yn unol â’n telerau a’r gofynion a nodir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.


Sut y gallaf newid fy newisiadau cyswllt?

Rydym yn awyddus iawn i gadw mewn cysylltiad, ond nid ydym eisiau cadw eich data personol am fwy o amser nag sydd angen. Rhowch wybod i ni sut yr hoffech i ni gysylltu â chi drwy gysylltu â’r Clerc (clerk@lsw.wales.ac.uk).

Byddwn bob amser yn gweithredu ar eich dewis o sut rydych eisiau derbyn gohebiaeth (er enghraifft, drwy e-bost neu drwy’r post). Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni  anfon rhai gohebiaeth. Mae’r rhain yn hanfodol i gyflawni ein hymrwymiad i chi fel Cymrawd neu fel aelod o staff. Dyma rai enghreifftiau:

• negeseuon ynghylch trafodion, fel amserlenni Debyd Uniongyrchol
• Rhestri postio sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas, fel gohebiaeth i’ch atgoffa i adnewyddu tanysgrifiadau, galwadau am enwebiadau, etholiadau a rhybudd o’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.


Cymrodoriaeth gan gynnwys cylchlythyrau

Rydym yn defnyddio’r data personol rydych chi’n eu darparu fel Cymrawd ar gyfer anfon gwybodaeth adnewyddu drwy’r post a thrwy e-bost, ar gyfer anfon Bwletin y Cymrodyr, ac ar gyfer anfon gwybodaeth am ein henwebiadau, etholiadau a’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.


Rhoddion ac addunedu cymynrodd

Gall rhoddion ac anrhegion mewn ewyllysiau wneud gwahaniaeth i waith y Gymdeithas. Os byddwch yn gwneud rhodd, byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni i gofnodi natur a swm eich rhodd, yn hawlio cymorth rhodd lle rydych wedi dweud wrthym eich bod yn gymwys, ac yn diolch i chi am eich rhodd. Os ydych yn rhyngweithio neu’n cael sgwrs â ni, byddwn yn nodi unrhyw beth perthnasol, ac yn ei storio’n ddiogel ar ein systemau.

Os ydych chi wedi dweud wrthym eich bod chi’n bwriadu gadael rhodd i ni yn eich ewyllys, neu yn meddwl am wneud hynny, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni i gadw cofnod o hyn – gan gynnwys pwrpas eich rhodd, os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am hyn.

Os ydym yn cael sgwrs neu’n rhyngweithio â chi (neu gyda rhywun sy’n cysylltu â ni mewn perthynas â’ch ewyllys, er enghraifft eich cyfreithiwr), byddwn yn nodi’r manylion hyn, i sicrhau bod eich rhodd yn cael ei chyfeirio yn unol â’ch dymuniadau.

Yn unol â rheolau’r Comisiwn Elusennau, mae’n rhaid i ni fod yn sicr o darddiad cronfeydd ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthynt. Byddwn yn dilyn proses diwydrwydd dyladwy, sy’n cynnwys ymchwilio i gadernid ariannol, hygrededd, enw da ac egwyddorion moesegol rhoddwyr.

Fel rhan o’r broses hon, byddwn yn cynnal ymchwil yn defnyddio gwybodaeth ac adnoddau proffesiynol sydd ar gael i’r cyhoedd. Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn eich atgoffa o’r broses pan fyddwch yn gwneud eich rhodd.


Proffilio

Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig i’n Cymrodyr ein bod yn defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd gyfrifol. Felly, rydym yn defnyddio proffilio, data demograffig a thargedu i’n helpu i ddod i adnabod ein Cymrodyr ac i sicrhau:

• Eich bod yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau sydd o ddiddordeb i chi neu sydd yn y rhanbarth daearyddol priodol
• Eich bod yn cael eich gwahodd i ymateb i ymgynghoriadau sy’n briodol i’ch gwaith

I wneud hyn, byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth a roddwch i ni trwy ffurflenni enwebu, a’ch cyfranogiad yn Archwiliad Sgiliau CDC, ac arolygon tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth ddaearyddol a demograffig i roi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn eich ardal leol, a deall eich diddordebau.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddangos sut mae defnyddwyr ein gwefan yn rhyngweithio â ni ar-lein. Bydd hyn yn casglu gwybodaeth am y defnydd o wefan CDC. Mae’r wybodaeth a gasglwn yn cael ei chyfuno.


Sut rydym yn defnyddio deunydd ffotograffig a fideo

Bydd ffotograffiaeth a ffilmio yn digwydd yn ystod digwyddiadau’r Gymdeithas ac fel rhan o’n rhaglen weithgareddau er mwyn diwallu ein buddiant dilys.

Bydd ffotograffau a fideos yn cael eu defnyddio gan y Gymdeithas i hyrwyddo gweithgareddau’r Gymdeithas, ac i ddarparu gwybodaeth a diweddariadau i Gymrodyr, rhanddeiliaid presennol, cyllidwyr a phartneriaid. Bydd y cynnwys hwn yn cael ei ddefnyddio yn ein cyhoeddiadau print ac ar ein sianeli digidol, gan gynnwys gwefannau, cylchlythyrau drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd arwyddion wedi’u gosod mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb i roi gwybod i’r rhai sy’n mynychu os oes ffotograffiaeth ac/neu ffilmio yn digwydd, ac mae gennych yr hawl i ddweud wrth staff y Gymdeithas yn y digwyddiad nad ydych yn dymuno i’ch llun gael ei ddefnyddio yn y canlynol: digwyddiadau’r Gymdeithas a digwyddiadau a gefnogir; bwletinau Cymrodyr; cylchlythyrau a phost untro yn ymwneud â’r Gymdeithas, datblygu ymchwilwyr, ac ymchwilwyr gyrfa gynnar; ceisiadau am grantiau.


Recriwtio a chyflogaeth

Er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau a’n cyfrifoldebau cytundebol, statudol a rheoli, rydym yn prosesu data personol, gan gynnwys data personol ‘sensitif’, gan ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr.

Gall data o’r fath gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, wybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd, tarddiad hiliol neu ethnig, ac euogfarnau troseddol. Mae rhagor o wybodaeth am ba ddata sy’n cael eu casglu a pham y caiff eu prosesu yn cael ei roi isod.

Cyfrifoldebau cytundebol: Mae ein cyfrifoldebau cytundebol yn cynnwys y rhai sy’n deillio o’r contract cyflogaeth. Mae’r data a broseswyd i gyflawni cyfrifoldebau cytundebol yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddata’n ymwneud â’r; gyflogres; cyfrif banc; cyfeiriad post; tâl salwch; tâl mamolaeth; gwyliau; pensiwn; a manylion cyswllt mewn argyfwng.

Cyfrifoldebau statudol: Ein cyfrifoldebau statudol yw’r rhai sydd yn cael eu gorfodi  ar y sefydliad fel cyflogwr gan ddeddfwriaeth. Mae’r data a broseswyd i gyflawni cyfrifoldebau statudol yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i, ddata’n ymwneud â: threth incwm; yswiriant gwladol; tâl salwch statudol; tâl mamolaeth statudol; gwyliau teulu; trwyddedau gwaith; a monitro cyfleoedd cyfartal.

Cyfrifoldebau rheoli: Ein cyfrifoldebau rheoli yw’r rhai sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad sefydliadol y Gymdeithas.  Mae’r data a broseswyd i gyflawni cyfrifoldebau rheoli yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddata’n ymwneud â; recriwtio a chyflogi; hyfforddi a datblygu; addysgu; ymchwil; absenoldeb; materion disgyblu; cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.


Data Categori Arbennig

Mae’r Ddeddf yn diffinio ‘data categori arbennig’ fel gwybodaeth am darddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu gredoau tebyg eraill, data genetig neu fiometrig, aelodaeth undeb llafur, iechyd corfforol neu feddyliol, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol, a honiadau, achosion neu gollfarnau troseddol.

Ni fyddwn byth yn casglu ac yn prosesu data personol sensitif heb gael caniatâd clir gan aelod o staff neu Gymrawd penodol neu aelod o’n rhwydwaith ymchwilwyr gyrfa gynnar / datblygu ymchwilwyr.

(a) Byddwn yn prosesu data am iechyd aelod o staff lle bo angen, i gofnodi absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch ac i dalu tâl salwch. Ni fydd y prosesu hwn fel arfer yn digwydd heb i’r aelod o staff wybod am hyn a, lle bo angen, ei gydsyniad.

(b) Byddwn yn prosesu data am darddiad hiliol ac ethnig gweithiwr, ei gyfeiriadedd rhywiol neu ei gredoau crefyddol dim ond pan fydd wedi gwirfoddoli data o’r fath, a dim ond at ddibenion monitro a chynnal ein polisïau cyfleoedd cyfartal a’n darpariaethau cysylltiedig.

(c) Bydd data am euogfarnau troseddol aelod o staff yn cael eu cadw yn ôl yr angen.


Datgelu data personol i gyrff eraill

Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau cytundebol a rheoli, efallai y bydd angen i ni, o bryd i’w gilydd, rannu data personol aelod o staff gydag un neu fwy o drydydd partïon.

Er mwyn cyflawni’r contract cyflogaeth, mae’n rhaid i ni drosglwyddo data personol aelod o staff i drydydd parti, er enghraifft, i ddarparwyr pensiwn a Chyllid a Thollau EM.

Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau statudol, mae’n rhaid i ni roi rhywfaint o ddata personol aelod o staff i adrannau neu asiantaethau’r llywodraeth e.e. darparu data ar dreth a chyflog i Gyllid a Thollau EM.


Eich manylion

Os hoffech gael manylion am yr wybodaeth sydd gan y Gymdeithas amdanoch, anfonwch e-bost atom ar clerk@lsw.wales.ac.uk.

Os hoffech newid y manylion sydd gennym ar eich cyfer, anfonwch e-bost atom ar clerk@lsw.wales.ac.uk.

Gallwch ysgrifennu atom hefyd yn: Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS

Bydd gwirio, diweddaru neu ddiwygio data personol yn digwydd o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn eich cais.

Eich hawliau diogelu data
Pan fydd y Gymdeithas yn defnyddio eich data personol ar sail caniatâd, mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i’r Gymdeithas roi’r gorau i ddefnyddio eich data personol.

Dywedwch wrthym gan ddefnyddio’r manylion uchod.


Hawliau mynediad pwnc

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu os hoffech eu defnyddio, ysgrifennwch atom yn y Swyddfa Diogelu Data, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS, neu e-bostiwch clerk@lsw.wales.ac.uk.

Byddwn hefyd angen i chi ddarparu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i gadarnhau pwy ydych chi. Os byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch, byddwn yn rhoi copi o’r wybodaeth i chi mewn fformat dealladwy, ynghyd ag esboniad o pam yr ydym yn ei chadw a’i defnyddio.

Unwaith y bydd gennym yr holl wybodaeth angenrheidiol i ymateb i’ch cais, byddwn yn darparu eich gwybodaeth i chi o fewn mis.  Gellir ymestyn yr amserlen hon o hyd at ddau fis os yw eich cais yn arbennig o gymhleth.


Beth i’w wneud os nad ydych chi’n hapus

I ddechrau, dylech siarad gyda ni’n uniongyrchol, fel y gallwn ddatrys unrhyw broblem neu ymholiad. Mae gennych yr hawl hefyd i gysylltu â Swyddfa’r Comisiwn Gwybodaeth (ICO) os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ddiogelu Data. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio  eu llinell gymorth ar 0303 123 113,  neu drwy fynd i www.ico.org.uk.


Cwcis a dolenni i wefannau trydydd partion

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n ymweld â gwefannau penodol. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu profiad da i chi pan fyddwch yn pori ein gwefan, ac mae hefyd yn ein galluogi i wella ein gwefan. I gael gwybodaeth fanwl am y cwcis rydym yn eu defnyddio a’r dibenion rydym yn eu defnyddio ar eu cyfer, darllenwch ein polisi cwcis.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, a chysylltiadau. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain, ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol yn unig i’r data personol a gesglir gan y Gymdeithas.


Cadw eich gwybodaeth

Byddwn ond yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth cyhyd ag y bydd ei hangen at y dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer. Mae pa mor hir y bydd yn cael ei storio yn dibynnu ar yr wybodaeth dan sylw, beth mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer ac weithiau, gofynion cyfreithiol statudol.


Sut rydym yn diogelu eich data

Mae’r system wybodaeth a diogelwch data yn hanfodol i ni er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ein haelodau o staff a’n Cymrodyr yn ddiogel.

Mae ein staff yn cael cynnig hyfforddiant diogelwch gwybodaeth a diogelu data ar gyflogaeth.

Mae’r holl wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr diogel.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i’n gwefan; Mae unrhyw ddata sydd yn cael eu trosglwyddo yn cael eu trosglwyddo ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Gellir rhannu data personol a gesglir ac a brosesir gennym gyda’r grwpiau canlynol lle bo angen:

  • Aelodau o staff CDC
  • Darparwyr seilwaith TG sy’n cynnal y wefan ac sy’n darparu cymorth TG mewn perthynas â’r wefan.

Hefyd, o dan amodau a reolir yn llym:

  • Darparwyr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaethau i ni.
  • Efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon os ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol, er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion amddiffyn twyll.

Storio gwybodaeth

Mae gweithrediadau’r Gymdeithas wedi’u lleoli yn y DU, ac rydym yn storio ein data o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Gall rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i ni drosglwyddo data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond dim ond os yw eich data wedi’i ddiogelu’n ddigonol y byddwn yn caniatáu hynny. Mae rhai o’n systemau yn cael eu darparu gan gwmnïau yn yr UD, ac er mai ein polisi ni yw ei bod yn well gennym ni i gynnal a phrosesu data aros ar systemau yn yr UE, efallai bod defnyddio eu cynhyrchion yn arwain at drosglwyddo data i’r Unol Daleithiau.  Fodd bynnag, rydym ond yn caniatáu hyn pan fyddwn yn sicr y bydd yr wybodaeth yn cael ei diogelu’n ddigonol. (e.e. Tarian Preifatrwydd yr Unol Daleithiau neu gymalau cytundebol safonol yr UE).


Diogelwch cardiau talu

Mae’r wybodaeth sydd gennym yn eich cylch yn cael ei storio ar ein CRM, Microsoft Dynamics 365, sy’n cael ei gynnal gan Microsoft Corporation. I gael gwybod sut mae Microsoft yn trin eich data, gweler eu polisi preifatrwydd.

Mae’r Gymdeithas yn defnyddio trydydd parti i brosesu taliadau cardiau debyd. Gellir talu ar-lein gan ddefnyddio ‘Go Cardless’ a “Stripe”. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn mewnbynnu data cardiau i’r dudalen dalu, eich bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol â ‘Go Cardless’ neu “Stripe”, sy’n defnyddio banc i drosglwyddo’ch taliad i ni, sy’n golygu bod eich gwybodaeth ynghylch eich cerdyn talu yn cael ei thrin gan y banc; nid yw’n cael ei phrosesu nac ei chadw gennym ni.

Caiff y gwasanaethau hyn eu hawdurdodi a’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) dan reoliadau gwasanaethau taliadau 2017.


Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol a gofynion cyfreithiol newydd. Ewch i’n gwefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau. Bydd y fersiwn gyfredol bob amser yn cael ei phostio ar ein gwefan.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2025.