Astudiaethau Cymreig
Astudiaethau Cymreig yw archwiliad, esboniad a dealltwriaeth ddeallusol o bopeth sy’n ymwneud â Chymru a’i chysylltiadau â’r byd ehangach.
Mae’n faes sy’n blaguro, a gwelir corff cryf o waith yn datblygu yn ein prifysgolion a’n cyrff ymchwil, treftadaeth a diwylliannol. O ymchwilio canfyddiadau pobl ifanc o’u cymunedau, eu cenedl a’r Gymraeg, i ailddarganfod lleisiau anghofiedig mewn llenyddiaeth; o archwilio gwaddol diwydiant trwm i ddatrysiadau arloesol i newid yn yr hinsawdd, mae Astudiaethau Cymreig yn adnodd addysgol a diwylliannol ag iddo botensial mawr.
Yn ei hanfod, gall helpu i gyflwyno delwedd o Gymru gyfoes i gynulleidfa ryngwladol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni fod ag ymwybyddiaeth gryfach o’r hyn sy’n gwneud y genedl yn arbennig. Ymhlith nodweddion Cymru mae ei diwylliant, ei gwerthoedd, ei hanes, dwyieithrwydd, pwysigrwydd cymuned a chynefin, traddodiadau gwleidyddol a chymdeithasol, amrywiaeth a llawer mwy. Dyma briodweddau craidd y genedl. Nid ystrydebau’n edrych yn ôl yw’r rhain ond yn hytrach asedau sy’n gosod Cymru ar wahân.
Mae gwybod a gwerthfawrogi pwy ydym ni’n hanfodol i’n hunanymwybyddiaeth a’n hunanhyder. Caiff hyn ei gydnabod yn y cwricwlwm cenedlaethol newydd i ysgolion. Fe’i hadlewyrchwyd hefyd yn Astudiaeth Etholiad Cymru 2016, lle nododd dros hanner y rhai a ymatebodd fod ymfalchïo yn hanes, treftadaeth neu dirwedd Cymru, ynghyd â’i diwylliant, llenyddiaeth a chelfyddydau, yn rhan bwysig o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymry.
Yn y llyfryn hwn, nod Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw tynnu sylw at enghreifftiau o Astudiaethau Cymreig ar draws nifer o sefydliadau a disgyblaethau academaidd. Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ysbrydoliaeth, mae’n edrych ar yr amrediad cyfan o feysydd sy’n angenrheidiol i ddatblygu Cymru fel cenedl gynaliadwy a dynamig.
Yn y gwaith hwn dangosir o ble mae Cymru wedi dod, yn ogystal ag i ble mae’n dymuno mynd.