Yr Athro Syr Michael Berry
FRS FRSE FRSA HonFLSW
Yr Athro Ffiseg Melville Wills (Emeritws), Prifysgol Bryste
Yr Athro Syr Michael Berry yw un o brif ffisegwyr damcaniaethol y byd. Mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ffiseg fathemategol yn y parthau cwantwm a chlasurol ac wrth eu rhyngwyneb. Mae ei wobrau niferus yn cynnwys Medal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol ym 1990, Medal Dirac 1996 y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Damcaniaethol, Gwobr Wolf 1998 a Gwobr Polya 2005.