Ian Diamond
FRSE FBA FAcSS HonFLSW
Syr Ian yw Ystadegydd Gwladol y DU a Chyfarwyddwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cyn ei benodiad i’r ONS yn 2019, roedd yn Bennaeth ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen, yn Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Southampton. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2013 am ei wasanaethau i wyddorau cymdeithasol ac addysg uwch.
Mae Syr Ian wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau, yn ogystal â llyfrau ac adroddiadau llywodraeth. Ers ei benodiad i’r ONS, mae wedi cymryd cyfrifoldeb personol dros ddylunio, cyflwyno a chyhoeddi adroddiadau Cyfrifiad 2021, a dros ddarparu gwaith monitro ystadegol cenedlaethol yn ymwneud â’r pandemig COVID-19.