Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 2024, Bangor: Cymru Gysylltiedig

Cymru Gysylltiedig: Datblygu eich Gyrfa fel Ymchwilydd yng Nghymru a Thu Hwnt’ yw thema Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Bydd y Colocwiwm yn cael ei gynnal ar 18 Mehefin ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r digwyddiad yn cael ei arwain gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a fydd yn gweithio gyda ni i greu rhaglen sy’n ateb eu diddordebau ymchwil a’u hanghenion gyrfaol.
Rydym felly, yn gwahodd Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar i gysylltu â ni gydag unrhyw syniadau maen nhw’n credu fyddai’n cyd-fynd â thema’r Colocwiwm.
Gallai syniadau gynnwys unrhyw beth, o awgrymiadau ar gyfer gweithdai, i weithgareddau thematig, i syniadau ar gyfer sesiynau, yn enwedig y rhai sy’n drawsddisgyblaethol o ran eu natur.
“Rydym yn benderfynol o wneud ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn sefydliad ble mai’r aelodau sydd yn siapio sut mae’r Rhwydwaith yn gweithio,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, Rheolwr Rhaglen Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
“Dyna pam rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Ymchwilwyr, ynghyd â grŵp o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o Brifysgolion Cymru, sydd wedi ymuno â ni fel llysgenhadon i drefnu digwyddiad eleni.
“Rydym yn bwriadu ychwanegu rhagor o lysgenhadon, yn enwedig rhai sy’n cynrychioli Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Aberystwyth. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn llysgennad i gysylltu â ni.
“Un o’n nodau strategol ar gyfer y Rhwydwaith yw nid yn unig adeiladu carfan amrywiol o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ond hefyd, darparu cyfleoedd arweinyddiaeth i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar i gymryd rhan weithredol mewn datblygu’r Rhwydwaith.
“Dyna pam rydyn ni eisiau i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar helpu i greu’r rhaglen ar gyfer y Colocwiwm.
“Rydym eisiau i’r sesiynau thematig adlewyrchu eu diddordebau ymchwil a sesiynau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd, i ateb eu hanghenion.”
Dyma ail Gynhadledd Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cynhaliwyd y gyntaf, gyda’i thema ‘Cymru Lewyrchus’, y llynedd yn Abertawe.
“Rydym wrth ein bodd bod y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru,” meddai Barbara. “Mae Cymru Gysylltiedig yn golygu cysylltu ymchwilwyr ar draws y wlad.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Colocwiwm, cysylltwch â ni.