Dr Sharon Thompson

Mae Dr Sharon Thompson yn derbyn Medal Dillwyn 2022 (Dyniaethau a Chelfyddydau Creadigol) am ei gwaith ar gyfraith teulu a theori gyfreithiol ffeministaidd a hanes cyfreithiol.

Mae gan Dr Thompson, Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, enw da rhyngwladol ym meysydd Cyfraith Teulu, Theori Gyfreithiol Ffeministaidd a Hanes Cyfreithiol, ac mae hi’n enwog am ei gwaith ar gytundebau cyn priodi. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd i’r cyfryngau, gan gynnwys fel cynghorydd cyfreithiol i gyfres deledu Cymru, Pobol y Cwm. Darlleyn mwy