Medalydd Dillwyn yn ennill gwobr nodedig Leverhulme
Llongyfarchiadau mawr i Dr Iestyn Woolway ar ennill un o wobrau nodedig Leverhulme.
Mae hyn yn sicr yn destun cyffro i ni, oherwydd derbyniodd Dr Woolway un o’n medalau Dillwyn yn 2023; medalau a gyflwynir i gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil gyrfa gynnar.
Mae Dr Woolway, Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, yn arweinydd byd-eang yn y maes asesu effaith newid yn yr hinsawdd, ac mae’n treulio llawer o amser yn astudio newid amgylcheddol byd-eang.
Mae wedi cyflawni gwaith arloesol wrth gymhwyso’r technegau diweddaraf, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial ar gyfer integreiddio arsylwadau maes gyda data lloeren ac efelychiadau model, er mwyn ateb cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae ei waith yn cynnig mewnwelediadau beirniadol i sut fydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd, gan ddarparu mapiau ffyrdd i reolwyr adnoddau sydd â’r dasg o roi cyfrif am fregusrwydd hinsawdd ecosystem wrth wneud penderfyniadau rheoli a chadwraeth.
Dyma Dr Woolway yn siarad yn seremoni’r medalau yn y Senedd y llynedd.