Cynllun Grant y Gymdeithas yn parhau i gefnogi prosiectau arloesol yng Nghymru
Mae llwyddiant a phwysigrwydd parhaus ein Cynllun Grantiau Ymchwil yn amlwg yn yr wyth prosiect newydd sydd wedi derbyn cyllid yn y rownd ymgeisio ddiweddaraf.
Eleni rydym yn dyfarnu grantiau sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau canlynol:
- Astudiaethau Cymru
- Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
- Ymchwilydd Gyrfa Gynnar (unrhyw ddisgyblaeth) fel arweinydd prosiect
Fe wnaethom ddenu ceisiadau gan chwech o brifysgolion Cymru.
“Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant parhaus y Cynllun Grantiau,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, ein Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
“Mae wedi dod yn rhan bwysig o dirwedd ymchwil Cymru, ac rydym yn dechrau gweld ei effaith o ran creu prosiectau ymchwil tymor hir llwyddiannus.
“Er enghraifft, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam a dderbyniodd un o’n grantiau y llynedd wedi defnyddio hynny i sicrhau grant o £15,000 oddi wrth Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru ar gyfer eu prosiect ‘Police Peer Supervision to Support Wellbeing’.
“Dyma’n union pam y gwnaethom sefydlu ein cynllun grantiau, ac mae mor galonogol ei weld yn dechrau dwyn ffrwyth fel hyn.”
Yr wyth prosiect rydym wedi’u hariannu yn y rownd ddiweddaraf hon yw:
Empowering places: interdisciplinary approaches to community-focused education | Dr Tom Avery | Prifysgol Abertawe |
Regenerative tourism in Bridgend through grassroots engagement | Dr Karen Davies | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Empowering young people in research | Dr Michaela James | Prifysgol Abertawe |
Support for neurodivergent staff working in UK higher education | Dr Emma Harrison | Prifysgol Wrecsam |
Community schools in Wales: conceptual understanding, current deployment, and future development | Lisa Formby | Prifysgol Wrecsam |
Strengthening research collaboration and community in arts and humanities across Wales and Scotland | Professor Kirsti Bohata | Prifysgol Abertawe |
Representation of older people in Welsh-language TV drama workshops | Dr Aelwyn Williams / Dr Elain Price | Swansea University |
Citizen science in the community: co-production of a programme to support the engagement of people living in deprived areas to gain insight into physical inactivity and health inequalities | Dr Zsofia Szekeres | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |