Cyhoeddi Adroddiad Ymchwil a Datblygu’r Senedd

Mae ymchwiliad pwyllgor y Senedd i dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesi Cymru wedi dod i gyfres o gasgliadau sy’n tynnu ar sylwadau a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae’r adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig hefyd yn defnyddio tystiolaeth gan nifer o’n partneriaid sector ymchwil, yn cynnwys CCAUC a Phrifysgolion Cymru. Mae’n gwneud pedwar argymhelliad bras i Lywodraeth Cymru:

  • adolygu lefel y cyllid sy’n gysylltiedig ag Ansawdd a gafodd ei ddarparu i sefydliadau yng Nghymru
  • dadansoddi mwy ar wasgariad cyllid Ymchwil a Datblygu ledled Cymru
  • datblygu cynllun cyfathrebu i amlygu effeithiau a buddion ymchwil ac arloesedd a ariennir yn gyhoeddus
  • edrych ar ba gymorth arall ellir ei gynnig i fusnesau bach a chanolig?

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at sylwadau a wnaed gan y Gymdeithas, yn ein hymateb ymgynghoriad, ynghylch yr angen i wella cydlyniad a chydweithrediad ar draws sectorau sydd ynghlwm ag ymchwil. Mae hefyd yn dyfynnu ‘Creu Effaith’, ein hadroddiad diweddar i effaith ymchwil Cymru a gyflwynwyd i’r ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021. Mae canfyddiadau’r ymchwiliad yn nodi ein sylwadau bod angen gwneud mwy ar fframio naratif cadarnhaol ynghylch ymchwil o Gymru a dathlu canlyniadau’r fframwaith rhagoriaeth ymchwil.

Mae’r adroddiad llawn i’w gael yma.