Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnig rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC i ariannu, hyrwyddo neu gefnogi digwyddiadau sydd yn cael eu trefnu gan ein Cymrodyr.
Os ydych chi’n Gymrawd a’ch bod chi’n cynllunio digwyddiad a fydd yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, rydych yn gymwys i wneud cais am gefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Pwy sydd yn cael gwneud cais?
Mae ceisiadau ar agor i holl Gymrodyr presennol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fel Cymrawd, mae’n rhaid i chi wneud cais ar ran sefydliad, busnes neu sefydliad arall a fydd yn cynnal y digwyddiad arfaethedig – ni allwn ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau sydd yn cael eu trefnu gan unigolyn.
Pa fath o gefnogaeth sydd yn gallu cael ei ddarparu?
Rydym yn cynnig 4 math o gefnogaeth – gallwch wneud cais am un neu bob un o’r rhain, yn dibynnu ar beth fyddai eich digwyddiad yn elwa ohono:
- Cyllid. Mae gennym ddwy ffrwd ariannu – un yr un ar gyfer digwyddiadau HASS a STEMM. Gall ymgeiswyr wneud cais am rhwng £250 a £1,000 fesul digwyddiad.
- Hyrwyddo. Gallwn hyrwyddo digwyddiadau â chefnogaeth trwy gyfrwng (fel y bo’n briodol), y cyfryngau cymdeithasol, bwletin y Cymrodyr, ein gwefan a’n cylchlythyr allanol. Rydym yn gallu rhannu unrhyw recordiadau ar ôl digwyddiad hefyd
- Cynnal digwyddiad ar-lein. Mae gennym becyn Zoom y telir amdano ac, mewn rhai achosion, byddwn yn gallu helpu partneriaid i gynnal digwyddiadau os na allant wneud hynny eu hunain.
- Cefnogaeth gan staff. Mewn rhai achosion, byddwn yn cynnig cefnogaeth ychwanegol ar gyfer digwyddiadau sy’n gwneud cyfraniad arbennig o gryf i’n blaenoriaethau strategol. Yn dibynnu ar yr hyn sy’n briodol ar gyfer y digwyddiad unigol, gall hyn gynnwys darparu cefnogaeth mewn perthynas â chynllunio, staffio digwyddiadau, adrodd neu waith polisi cysylltiedig.
Pa fath o weithgareddau sydd yn cael cefnogaeth?
Gallwn ddarparu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau a fydd yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru. Gall y digwyddiadau hyn fod mewn person neu ar-lein, a chynnwys; darlithoedd, cynadleddau a symposia, gweithdai, trafodaethau panel a digwyddiadau bord gron, digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, e.e. gwyliau ac arddangosfeydd, a sesiynau hyfforddi.
Dylai eich digwyddiad gael ei gynnal o fewn 12 mis o’r dyddiad y byddwch yn derbyn cadarnhad o gefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Dylech ddewis y dyddiad cau sy’n gweddu orau i ddyddiad eich digwyddiad.
Mae unrhyw eithriadau wedi’u rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC.
Pryd y gallaf wneud cais?
Mae’r llinell amser hon yn rhoi trosolwg o pryd y mae angen cyflwyno eich cais a phryd y byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ar bob dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Beth yw’r broses gwneud penderfyniadau?
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf canlynol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn esbonio pob un o’r meini prawf hyn yn y ffurflen gais.
- Cenhadaeth ac Amcanion Cymdeithas Ddysgedig Cymru– Dangos sut y bydd eich digwyddiad yn cefnogi ein cenhadaeth ac o leiaf un o’n nodau strategol
- Hygyrchedd – Dangos sut y bydd eich digwyddiad yn hygyrch
- Amrywiaeth – Dangos sut y byddwch yn mynd ati i chwilio am ystod amrywiol o bobl i ymgysylltu â nhw.
- Effaith – Dangos sut rydych chi’n bwriadu mesur effaith y digwyddiad hwn
- Cyd-destun Cymreig – Dangos sut y bydd eich digwyddiad yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru.
Yn ogystal, bydd ceisiadau am gyllid hefyd yn cael eu sgorio yn erbyn:
- Gwerth am Arian – Dangos sut rydych yn sicrhau bod y digwyddiad yn darparu gwerth am arian
Gofynnir i ymgeiswyr fynd i’r afael â phob un o’r meini prawf hyn mewn 250 gair neu lai ar y ffurflen gais – gall y manylion a ddarperir fod yn gymesur â faint o gefnogaeth rydych yn gofyn amdano ac ym mhob achos, rydym yn eich annog i gadw’ch ymatebion yn gryno ac i’r pwynt.
Os ydych yn dymuno creu drafft o’ch atebion cyn llenwi’r ffurflen gais ar-lein, gallwch gael mynediad i fersiwn word yma.
Cyfrifoldebau ymgeiswyr llwyddiannus:
Os fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu’r cefnogaeth y cytunwyd arno ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn gofyn i’ch digwyddiad/trefnwyr lynu at y canlynol:
- Cydymffurfio â safonau’r Gymraeg eich sefydliad
- Cydnabod cefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar eich deunyddiau cyhoeddusrwydd
- Darparu cynnwys i Gymdeithas Ddysgedig Cymru y gallwn ei ddefnyddio i helpu i hyrwyddo’r digwyddiad (lle bo hynny’n berthnasol)
- Gwahodd o leiaf un cynrychiolydd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru i fynychu’r digwyddiad lle bo hynny’n berthnasol
- Rhannu cynnwys y gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru ei ddefnyddio ar gyfer deunydd hyrwyddo ar ôl y digwyddiad e.e. lluniau
- Casglu a darparu data effaith ar ôl y digwyddiad
- Cyflwyno anfonebau yn brydlon
Os ydych wedi cael cyllid tuag at ariannu eich digwyddiad, rydym yn disgwyl cael ein hanfonebu o fewn tri mis o ddyddiad y digwyddiad. Yn ogystal, byddwch cystal â darparu diweddariad byr ar y digwyddiad a rhannu lluniau/data lle bo’n berthnasol. Os na wariwyd cymaint ag a ddisgwyliwyd ar y gweithgaredd, yna disgwyliwn y byddwch yn ein hanfonebu’n unol â hynny.
Os nad oes gan eich sefydliad y cyllid ar gael i’n hanfonebu ni’n ôl-weithredol, fe wnawn weithio â chi i gytuno ar amserlen amgen ar gyfer talu.
Mae rhagor o fanylion am y gofynion hyn yn cael eu rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC llawn.
Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch wneud cais ar gyfer y rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC drwy’r ffurflen gais yma. Gallwch ddarllen ein polisi llawn yma, gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’ch cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni ar: lsw@wales.ac.uk