Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ford gron o arbenigwyr i fyfyrio ar yr elfennau tebyg a gwahanol rhwng ecosystemau arloesi Cymru a Gwlad y Basg.
Ein hamcan wrth gynnal y ford gron oedd clywed sut mae pethau’n cael eu gwneud mewn mannau eraill i lywio myfyrdodau ar y trefniadau ar gyfer gweithgareddau a strwythurau yng Nghymru. Nid y bwriad yw nodi ‘arferion gorau’ i’w copïo, ond cael ysbrydoliaeth gan eraill, ac ystyried a oes syniadau y gellid eu haddasu a’u cymhwyso’n briodol wrth i Gymru ddatblygu ei hymagwedd ei hun.
Dyma’r prif fewnwelediadau i ddatblygu gweithgarwch arloesi ymhellach yng Nghymru a oedd yn deillio o’r ford gron:
Bydd gweithredwyr canolradd yn cysylltu ag elfennau gwasgaredig yn system Gwlad y Basg, gan gynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant.
Amlygwyd tri phrif gonglfaen system arloesi Gwlad y Basg:
1. Y Rhwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi
Rhwydwaith cydgysylltiedig o seilwaith a sefydliadau gwyddonol a thechnolegol yw’r Rhwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi. Cafodd ei sefydlu ym 1997, a’i gadarnhau fel pwynt ffocws polisi arloesi yng Ngwlad y Basg. Ceir tri phrif fath o gynrychiolwyr o fewn y rhwydwaith hwn, ac mae’n rhaid i sefydliadau ymgeisio i gael eu derbyn fel cynrychiolwyr, sydd o gymorth i roi strwythur a sefydlogrwydd i’r rhwydwaith. Dyma rwydwaith o weithredwyr heterogenaidd â rolau ar wahân ond dealltwriaeth glir o’r modd y mae’r rolau hynny’n ffitio i’w gilydd.
2. Sefydliadau Clwstwr a Pholisi
Ceir 16 o sefydliadau clwstwr o fewn ecosystem arloesi Gwlad y Basg. Mae’r sefydliadau hyn yn gwasanaethu dau ddiben, sef gweithredu fel offerynnau polisi cyhoeddus (drwy ddefnyddio perthnasoedd â’r llywodraeth i hwyluso trawsnewid rhanbarthol) ac offerynnau cystadleurwydd busnes (drwy gydweithredu i hyrwyddo cystadleurwydd busnes).
3. Strategaeth Arbenigo Clyfar (PCTI 2030)
Cynlluniwyd Strategaeth Arbenigo Clyfar Gwlad y Basg i fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol o flaen taleithiau Gwla d y Basg drwy dair blaenoriaeth strategol (diwydiant clyfar, ynni glanach, iechyd wedi’i bersonoli), pedwar maes cyfle (bwyd iach, eco-arloesi, dinasoedd cynaliadwy, a diwydiannau creadigol), a mentrau trawsnewidiol, blaengar (heneiddio’n iach, symudedd trydanol, economi gylchol).
Cyflwynwyd 'diwylliant adeiladu gwlad' Gwlad y Basg fel ffactor a oedd yn allweddol i'w llwyddiant wrth arloesi.
Yng nghyd-destun y tri chonglfaen hyn, mae’r rhai oddi mewn i system Gwlad y Basg wedi profi heriau, a disgwylir iddynt brofi heriau pellach lle bydd angen cyfeiriadau newydd i sbarduno arloesi a diwydiant yn y gofodau polisi ac ymchwil. Dyma rai o’r heriau hyn:
Mae gan Wlad y Basg system lywodraethu aml-lefel, ac iddi gymhlethdod tebyg i Gymru, ac ymddengys ei bod wedi datblygu dulliau effeithiol o integreiddio a gweithio ar draws y lefelau hyn.
Mae ecosystem arloesi Gwlad y Basg yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i gynulleidfa ehangach Cymru a’r DU. Mae’n nodedig mai’r hyn sydd wedi creu’r mwyaf o lwyddiant i’r system yw parhad polisi, gan y bu’n canolbwyntio ar sbarduno arloesi a diwydiant ers deugain mlynedd. Mae’r ddwy agwedd hon, sef natur hirdymor a pharhad yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â llawer o gyd-destunau polisi. Ar ben hynny, i raddau helaethach nag yn rhanbarthau eraill yr UE, mae gan Wlad y Basg ymreolaeth ariannol ac ystod eang o alluoedd o ran polisi. Mae hyn yn cynnig digonedd o adnoddau a chwmpas ar gyfer polisi Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi annibynnol. Mae’r tair llywodraeth daleithiol yn gweithredu fel sefydliadau codi trethi hanfodol (na cheir enghreifftiau cyfatebol ohonynt yn y DU). Oherwydd ei chryfder wrth gasglu adnoddau, mae seilwaith diwydiannol cadarn yn nodweddu Gwlad y Basg.
Mae system lywodraethu aml-lefel Gwlad y Basg, sy’n ymestyn o Ewrop, drwy Madrid at Wlad y Basg ac yna i’w thaleithiau a’i bwrdeistrefi, yn sicrhau dull gronynnol o lunio’r system arloesi. Mae’r llywodraeth yn gosod rheolau cyn caniatáu i gyfryngwyr chwarae rhan hanfodol. Mae’r sefydliadau cyfryngol hyn yn hwyluso cyd-entrepreneuriaeth system Gwlad y Basg, gan arwain at greu atebion ar y cyd ar gyfer problemau cyffredin. At ei gilydd, mae ecosystem arloesi Gwlad y Basg, a nodweddir gan ddwysedd o sefydliadau ac sydd o natur led-barhaol, yn cyferbynnu â newid sefydliadol y DU.
Mae parhad polisi arloesi Gwlad y Basg dros gyfnod o ddegawdau wedi bod yn hanfodol i'w chryfder ym maes gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi.
Mae’n hanfodol pwysleisio pwysigrwydd cyd-destun yn llwyddiant polisi arloesi unrhyw ranbarth, a pha wersi a allai gael eu hystyried yn berthnasol i ranbarthau eraill. Er ei bod yn gyffredin clywed cyfeiriadau at ‘arfer gorau’, mae’r awgrym y gallai’r rhain fod yr un mor berthnasol a llwyddiannus ym mhob cyd-destun yn anghywir. Nid oes modd trosglwyddo cyd-destun neilltuol o’r naill le i’r llall (a’r cyd-destun yn aml sy’n arwain at lwyddiant polisi; gan hynny, cyfyngir ar y gallu i fabwysiadu agweddau ar bolisi arloesi rhanbarth neilltuol mewn rhanbarth arall. Er hynny, gall patrymau o ardaloedd eraill yn aml roi mewnwelediad i egwyddorion polisi ac arfer effeithiol, a’r cwestiwn wedyn yw: a yw’r egwyddorion hyn yn berthnasol, ac os felly, pa arferion y gellid eu haddasu i gyd-fynd ag amodau lleol er mwyn creu canlyniadau tebyg?
Gyda hyn mewn golwg, dyma grynodeb o elfennau llwyddiannus o system Gwlad y Basg a allai roi ysbrydoliaeth i Gymru:
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron ar arloesi, gan ddod ag arbenigwyr arloesi, ymarferwyr ac arweinwyr ynghyd i helpu i lywio a chyfrannu at drafodaethau a allai wella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru ac ar gyfer Cymru. Roedd y rhaglen hon o weithgareddau i ddechrau’n cyd-daro â gwaith Llywodraeth Cymru i lunio’r Strategaeth Arloesi newydd i Gymru, a chynlluniau cyflawni cysylltiedig. Ar gyfer 2024, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn cyfres newydd o‘r rhaglen byrddau crwn arloesi.
Yn y cam nesaf hwn, mae’r Gymdeithas yn ymgysylltu ymhellach â meddylwyr blaenllaw ac ymarferwyr yn y maes, gan barhau i ddatblygu argymhellion er mwy helpu i lywio a gwella strategaethau arloesi a’r amgylchedd arloesi yng Nghymru. Y thema greiddiol newydd ar gyfer y cam nesaf hwn yw “Arloesi Cynhwysol” – a ddiffinnir yn yr ystyr ehangaf, ond gyda phwyslais arbennig ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a chan fesur effaith y tu hwnt i ffactorau economaidd. Bydd yr ail gam hwn hefyd yn cynnwys ymchwiliad dyfnach i thema o’r gyfres flaenorol o fyrddau crwn: “Arloesi mewn Cenhedloedd Bach,” cyfle i rannu gwersi y gall Cymru eu dysgu gan genhedloedd bach eraill.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae ei Chymrodoriaeth yn dwyn ynghyd arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt. Mae’r Gymdeithas yn defnyddio’r wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a rhoi cyngor annibynnol ar bolisi.