ALLEA yn creu achos o’r newydd dros gyhoeddi ysgolheigaidd mynediad agored
Mae galwad wedi’i wneud gan Ffederasiwn Academïau’r Gwyddorau a’r Dyniaethau Ewrop (ALLEA) i ddarparu ymchwilwyr gyda ‘hawliau cyhoeddi eilaidd’(SPR) ledled y DU.
Byddai Hawliau Cyhoeddi Eilaidd (SPR) yn galluogi ymchwilwyr i rannu erthyglau ysgolheigaidd a ariennir yn gyhoeddus drwy eu sefydliadau, neu farchnadoedd di-elw eraill, i gyd-fynd â chyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd, heb fod angen cael caniatâd gan y cyhoeddwyr sy’n aml yn berchen ar yr hawlfreintiau.
Mae hawliau cyhoeddi eilaidd yn cael eu defnyddio mewn chwe aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Mae ALLEA wedi ymgyrchu’n hir dros fodel Mynediad Agored o gyhoeddi ysgolheigaidd, ac maent wedi defnyddio Wythnos Mynediad Agored i ailddatgan eu hachos, gan ddadlau y dylai SPRs gael eu cyflwyno mewn cytgord ledled yr UE cyfan.
Mae ALLEA yn cynrychioli mwy na 50 o academïau o tua 40 o wledydd yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn aelod ar y cyd gyda Chymdeithas Frenhinol Caeredin, y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig.