Cynllun Grant Cymru Ystwyth Cymru-Iwerddon
Bydd grant sydd yn cael ei ariannu gan Gymru a’i reoli gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru fel rhan o raglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru, yn cynnig hyd at £12,500 ar gyfer un prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae’r alwad am gynigion bellach ar agor.
Bydd angen i’r prosiect llwyddiannus fodloni’r ddau ofyniad cyffredinol canlynol:
1. Bod yn gais ar y cyd, gan gynnwys ymchwilwyr o sefydliad addysg uwch yng Nghymru ac Iwerddon
2. Archwilio materion sy’n ymwneud ag iaith, diwylliant a threftadaeth, a chanolbwyntio’n benodol ar ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd.
Bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu yn yr hydref, a bydd angen i brosiectau gael eu cwblhau o fewn tri neu bedwar mis. Manylion llawn i ddilyn.