Stori Dr Frances Hoggan
Roedd Dr Frances Hoggan yn ymchwilydd meddygol arloesol o Gymru, yn ddiwygiwr cymdeithasol ac yn ffigur pwysig yn y frwydr i ganiatáu i fenywod astudio meddygaeth yn y 19eg ganrif.
Ganwyd Frances Hoggan (nee Morgan) yn Aberhonddu yn 1843. Dechreuodd ei hastudiaethau meddygol yn Llundain yn 1866 ond oherwydd y cyfleoedd cyfyngedig i fenywod yn y DU, cofrestrodd ym Mhrifysgol Zurich yn 1867, yr unig brifysgol yn Ewrop ar y pryd oedd yn derbyn myfyrwyr meddygol benywaidd. Graddiodd ym mis Mawrth 1870 a hi oedd yr ail fenyw yn Ewrop i ennill Doethuriaeth Feddygol.
Ar ôl graddio, bu Hoggan yn gwneud gwaith ôl-raddedig yn Vienna, Prague a Paris, cyn dychwelyd i Brydain. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei gyrfa feddygol fel ymarferydd yn gweithio gyda Dr Elizabeth Garrett yn yr Ysbyty Newydd i Fenywod yn Llundain. Cydweithiodd hefyd gyda Dr Elizabeth Blackwell i sefydlu’r Gymdeithas Iechyd Gwladol yn 1872 a gynlluniwyd ‘i hyrwyddo iechyd ymhlith pob dosbarth yn y boblogaeth’.
Sicrhaodd Hoggan ei thrwydded i ymarfer o’r diwedd gan Goleg Meddygon King and Queen’s yn Iwerddon ym mis Chwefror 1877. Yn 1880, hi oedd aelod benywaidd cyntaf y coleg a ailenwyd Coleg Brenhinol Meddygon Iwerddon (MRCPI).
Yn 1874, priododd Dr George Hoggan a gyda’i gilydd sefydlodd y ddau y practis meddygol gŵr a gwraig cyntaf, gan gyhoeddi papurau ymchwil meddygol. Daeth Frances yn arbenigwr ar glefydau menywod a phlant.
Ni anghofiodd Hoggan ei chefndir Cymreig, a thua diwedd y 1870au ac yn y 1880au cynnar bu’n cymryd rhan mewn trafodaethau’n ymwneud ag addysg ganolradd ac uwch yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar bwysigrwydd cyfleoedd i fenywod a merched.