Newyddion y Cymrodyr: Arddangosfa gelf, cyfansoddiad Cymru, llyfrau a gwobrau

Mae arddangosfa sy’n dathlu gwaith Mary Lloyd Jones FLSW, un o artistiaid gorau Cymru, yn cael ei chynnal yn Oriel Gelf Caerdydd. Mae Mary Lloyd Jones @ 90 yn rhedeg tan 6 Hydref, ac yn arddangos rhai o’i gweithiau newydd sydd ar gael.

Llongyfarchiadau i’r Athro Urfan Khaliq FLSW ar ddod yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Khaliq yn gweithio ar egwyddorion cyffredinol cyfraith ryngwladol, a hanes llafur gorfodol.

Llongyfarchiadau yn ogystal i Dr Emma Yhnell FLSW ar dderbyn Gwobr Addysgwr Gwyddoniaeth gan y Gymdeithas Niwrowyddoniaeth.

Bydd yr Athro Laura McAllister FLSW a Dr Rowan Williams FLSW yn mynychu ‘sesiwn dros frecwast’ Ysgol Fusnes Caerdydd, i drafod eu hadroddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r camau sydd eu hangen i gyflawni cynnydd. Cofrestrwch yma i fynychu’r sesiwn.

Mae’r Athro Charlotte Williams FLSW wedi cyd-olygu Globalising Welsh Studies: Decolonising history, heritage, society and culture. Mae’n cynnwys penodau gan yr Athro Emmanuel Ogbonna FLSW a Dr Gareth Evans Jones, aelod o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.