Yr Athro Terry Rees 1949 – 2023
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth ddiweddar Yr Athro Fonesig Teresa Rees, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cyfrannodd Yr Athro Rees yn sylweddol at y byd addysg uwch yng Nghymru a’r maes cydraddoldebau rhwng y rhywiau, a dyna’n rhannol pam fu iddi dderbyn CBE yn 2002. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd (2003-10), ac yn 2015 fe’i gwnaethpwyd yn Foneddiges am ei gwasanaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol.
Yn adnabyddus fel “Terry”, daeth yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2012. Dywedodd Yr Athro Hywel Thomas, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ei bod yn “unigolyn anhygoel ac academydd o fri, a oedd yn ymgorffori uchelgeisiau Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd y Gymdeithas yn ffodus o gael menyw mor uchel ei pharch fel Cymrawd yn ystod ei blynyddoedd cynnar, wrth i ni ffurfio ein hunaniaeth. Roedd ei hadroddiad ar gydbwysedd rhwng y rhywiau yn 2014 yn ganolog o ran hynny.”
Adeiladodd ei henw da yn y byd academaidd drwy ymchwil ffeministaidd yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau rhwng y rhywiau – gwaith a fu’n astudio sut i weithredu cydraddoldeb rhwng y rhywiau o fewn polisïau ac arfer sefydliadol.
Wrth sôn am Yr Athro Rees, dywedodd Yr Athro Terry Threadgold, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:
“Gweithiais yn agos gyda Terry am rai blynyddoedd ym Mhrifysgol Caerdydd pan yr oeddem ni’n dau yn Ddirprwy Is-Gangellorion; roeddem yn cael ein hadnabod fel “y ddau Terry”. Braint fawr oedd gweithio gyda hi, a’i gweld yn rhoi ei hymchwil ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau ac arwyddocâd rhywedd mewn ymchwil ar waith ar draws Prifysgol fawr, gymhleth a gwrthwynebol o bryd i’w gilydd.
“Bu i’w gwaith greu newid a chyfrannu at fywyd gwaith nifer enfawr o fenywod a dynion yn y brifysgol, yng Nghymru a ledled Ewrop.
“Roedd hi’n ysbrydoliaeth i’r nifer fawr o bobl a gafodd eu cynghori a’u cefnogi ganddi, a hynny mewn modd doeth a gofalgar, yn rhan o’i bywyd gwaith arferol. Byddwn yn ei cholli’n fawr, ac yn bersonol, ni anghofiaf fyth ei meddwl craff a’i synnwyr digrifwch diatal a lwyddodd, ynghyd â’i gwên ddireidus, i reoli pwyllgorau afreolus a’u gwthio i weithio’n effeithiol mewn cyfnodau cythryblus a straenus.
“Roedd hi’n rym er daioni ac yn ffrind anhygoel.” Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydymdeimlo’n arw gyda’i theulu a’i ffrindiau.
Darllen pellach
Yr Athro Fonesig Teresa Rees: Ysgrif goffa, Prifysgol Caerdydd