140 blynedd o chwedlau ym Mhrifysgol Bangor: Digwyddiad a gefnogir, 23 Hydref

Casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd, Ysgoloriaethau a’r Gymuned yn ddigwyddiad ar y cyd i’r brifysgol a’r gymuned yn y gyfres i nodi 140 o flynyddoedd ers sefydlu Prifysgol Bangor.

Mae’r digwyddiad, a noddir gan Brifysgol Bangor a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac a drefnwyd gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol, yn dathlu’r berthynas rhwng Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor a chyfraniad llyfrau ac ysgolheictod Astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd at feithrin enw da rhyngwladol y brifysgol yn y meysydd hyn. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos gwaith Prifysgol Bangor yn y gymuned, yn enwedig o ran cynnal diddordeb yn y chwedlau yng Nghymru ac yng ngweddill y byd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau byr am hanes y casgliadau, yn benodol cyfraniadau pobl leol at gyfoethogi’r casgliadau Cymraeg ac Arthuraidd; perfformiad gan Gillian Brownson, storïwr ac artist lleol, gyda disgyblion o ysgol gynradd leol a ddatblygwyd yn ystod arddangosfa gan Gronfa Bangor a’r Is-ganghellor ‘Cymru, Cartref y Chwedlau’; paentiad byw o’r perfformiad gan yr arlunydd, Maria Hayes; cyflwyniad ar effaith ymchwil y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn y gymuned leol gan yr Athro Raluca Radulescu, cyfarwyddwr y ganolfan; a chyflwyniad ar hanes y Gymraeg ac Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor gan Dr Aled Llion Jones, cyd-gyfarwyddwr y ganolfan a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.